Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion canser yn cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil i wella eu lles corfforol a meddyliol yn ystod triniaeth

Mae cleifion sy’n derbyn triniaeth canser yng Ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn astudiaeth sy’n edrych ar sut y gall cefnogaeth seicolegol ar lein wella eu lles.   

Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn cymrd rhan yn yr astudiaeth ledled y DU ‘Finding My Way’ sy’n ymchwilio i ba mor dda y mae rhaglen gefnogi ar-lein hunan astudio yn gostwng gofid ac yn gwella lles ar gyfer pobl gyda chanser.  

Mae cleifion yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer y treial, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caer, ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.  

Un claf sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd yw John Fleet, Ymgynghorydd Llawfeddygol wedi ymddeol, sy’n dweud ei fod yn falch o gael cyfrannu at astudiaeth a fydd yn elwa eraill gyda chanser.  

Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o fod yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil sydd â’r potensial i fod o fudd i eraill yn y dyfodol.”

Hyd yma mae’r Tîm Ymchwil yn Ysbyty Glan Clwyd wedi recriwtio wyth claf i mewn i’r astudiaeth.  

Meddai Beryl Roberts, Pennaeth Nyrsio ar gyfer yr Uwch Adran Ganser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Beti Cadwaladr:  “Mae’r rhaglen ‘Finding My Way’ wedi bod yn cael ei ddatblygu ar gyfer goroeswyr canser o Awstralia ers dros 10 mlynedd, ac rydym yn gyffrous o allu rhannu fersiwn o’r rhaglen sydd wedi’i addasu ar gyfer y DU gyda’n cleifion ni.

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn falch o fod yn cymryd rhan yn yr astudiaeth seicolegol hon a fydd yn cynnig cefnogaeth ar-lein ar gyfer ein cleifion sydd wedi derbyn diagnosis o ganser ac sy’n cael triniaeth canser.  Mae diagnosis canser yn achosi straen ac mae nifer o’n cleifion yn profi gofid seicolegol.    Mae ymchwil yn bwysig iawn i ni i ddeall sut allwn ni helpu a chefnogi ein cleifion yn ystod ac ar ôl triniaeth am ganser.  

Ychwanegodd Dr Lynne Grundy, Prif Ymchwilydd ar gyfer ‘Finding My Way’ o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’r treial mor bwysig ar gyfer cleifion canser yng Ngogledd Cymru, ac mae’r astudiaeth hon yn cynnig cyfle i roi cefnogaeth ychwanegol iddynt yn ystod amseroedd heriol iawn.”