Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion canser y brostad ar draws Gogledd Cymru yn elwa o raglen wyliadwriaeth newydd

15.03.22

Gall cleifion canser y brostad yng Ngogledd Cymru bellach osgoi arosiadau pryderus am apwyntiad trwy weld eu canlyniadau gwaed ar-lein cyn gynted ag y byddant ar gael.

Y Bwrdd Iechyd yw’r cyntaf yng Ngogledd Cymru i gofrestru ar raglen newydd sy’n tracio Antigen Penodol y Brostad (PSA) o bell.

Yn dilyn triniaeth ar gyfer canser y brostad, mae cleifion angen profion gwaed PSA rheolaidd rhwng tri, chwech a 12 mis i fonitro eu cynnydd.

Mewn ymagwedd ddigidol newydd tuag at ôl-ofal, mae’r prawf gwaed a gymerir gan y meddyg teulu neu’r ysbyty bellach yn cael ei Iwytho’n awtomatig i system tracio PSA, sy’n cael ei gwirio gan nyrsys Wroleg.

Mae’r system tracio yn helpu’r staff clinigol i fonitro canlyniadau profion PSA rheolaidd a galw cleifion yn ôl i’r ysbyty yn gyflym os ydynt yn bryderus. Ni fydd y rhai sydd â lefelau PSA arferol yn cael apwyntiad claf allanol yn yr ysbyty. 

Gall cleifion weld eu canlyniadau gwaed trwy’r traciwr a siarad yn uniongyrchol ag un o’r nyrsys os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Dywedodd Delyth Jones, Cydlynydd PSA yn Ysbyty Gwynedd: “Mae gallu cyrchu canlyniadau eu profion gwaed cyn gynted ag y maent ar gael, heb orfod aros i glinigydd neu nyrs gysylltu â nhw, yn lleihau llawer iawn o straen a phryder. Gall cleifion hefyd ffonio un o’r tîm yma os ydynt am drafod eu canlyniadau ymhellach hefyd.”

Mae’r traciwr wedi cael ei groesawu gan Grŵp Cefnogi Canser y Brostad Gogledd Cymru sy’n dweud y bydd o fudd enfawr i gleifion.

Dywedodd Phil Jones, cyn glaf canser y brostad yn Ysbyty Maelor Wrecsam; “Rwy’n falch iawn o weld y traciwr PSA yn cael ei gyflwyno ar draws y Bwrdd Iechyd.

“Mae aelodau’r Grŵp Cymorth Canser y Brostad lleol wedi bod yn gwthio i hwn gael ei gyflwyno dros y ddwy flynedd ddiwethaf felly mae’n newyddion gwych i gleifion.

“Mae’r grŵp wedi cael adborth gan gleifion o’r blaen eu bod wedi cael trafferth cael eu canlyniadau gwaed yn ôl a’r union gyfraddau felly bydd cael y traciwr yn ei gwneud hi’n llawer haws gan y gall cleifion drefnu profion gwaed a chael mynediad at eu canlyniadau o’u cadeiriau breichiau trwy’r system ar-lein newydd.”

Ychwanegodd Rachael Taylor, Cydlynydd Canser y Brostad yn ysbyty Maelor Wrecsam: “Rwy’n falch iawn bod y Traciwr PSA ar waith, gan fod hwn yn welliant gwych yn y gofal dilynol ar gyfer ein cleifion canser y brostad.”

Mae hwn yn cael ei gynnig i bob claf canser y brostad ar draws y Bwrdd Iechyd a hyd yma mae wedi cael adborth cadarnhaol gan gleifion.

Dywedodd Heidi Rawson, Cydlynydd PSA yn Ysbyty Glan Clwyd: “Mae’r traciwr PSA newydd yn mynd i gynnig cyfle gwych ar gyfer hunanreolaeth lawer gwell yn ogystal â lleihau pryder cleifion sy’n aros am eu canlyniadau gwaed.”

Ychwanegodd Caroline Williams, Arweinydd Perfformiad Gwasanaethau Canser: “rydym yn gyffrous iawn ein bod wedi mynd yn fyw â gyda meddalwedd tracio PSA o fewn ein gwasanaeth Wroleg. Mae’n cynrychioli gwelliant sylweddol yn y modd yr ydym yn monitro lefelau PSA ac mae’n enghraifft wych o ddefnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr yn cydweithio i wella ansawdd ein gwasanaethau canser yng Ngogledd Cymru.”