Neidio i'r prif gynnwy

Clapiwch dros Ofalwyr, ond gwnewch hynny'n ddiogel

Mae'r gefnogaeth a ddangoswyd i staff a gofalwyr y GIG yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ysgubol. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'r gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth gyhoeddus wedi golygu llawer i'n staff.

Rydym, fodd bynnag, angen sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i aros yn ddiogel a gwarchod ein hunain, ein teuluoedd a Gwasanaethau'r GIG.  Er mwyn gwneud hyn rydym yn gofyn i bobl aros gartref pan mae'n amser #ClapioDrosOfalwyr

Rydym yn gwybod y gall hwn fod yn gyfnod emosiynol iawn, yn enwedig ymysg teulu, ffrindiau a chydweithwyr pobl a effeithir gan COVID-19. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gallu rheoli tir ein hysbyty  yn ddiogel i'n cleifion, ymwelwyr a staff gynnal pellter cymdeithasol. Rydym yn gwybod mai hon yw'r ffordd orau i atal y firws rhag lledaenu.

Felly unwaith eto, hoffem ddiolch i bawb am ddangos eu cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn a gofyn i bobl #ClapioDrosOfalwyr o gartref.