Neidio i'r prif gynnwy

Claf cyntaf yn cael ei ryddhau o Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael triniaeth ar gyfer COVID-19 ar yr Uned Gofal Critigol

Neil Price, preswylydd o Dreffynnon yw’r claf cyntaf sydd wedi cael triniaeth yn yr Uned Gofal Critigol yn Ysbyty Glan Clwyd i gael ei ryddhau gartref.

Safodd staff ar y coridor i Ward 9 i ffarwelio gyda Neil ddydd Llun ar ôl iddo dreulio chwe wythnos yn yr ysbyty yn gwella o COVID-19.

Cafodd Neil sy’n 57 oed ac o Dreffynnon ei dderbyn i’r ysbyty ar 9 Mawrth ar ôl iddo waelu’n raddol dros yr wythnos flaenorol.

Dywedodd gwraig Neil, Diane: “Roedd yn gwaelu’n raddol ar ôl dechrau teimlo’n sâl ddydd Llun 2 Mawrth tra roedd yn y gwaith yn Airbus.

“Fe dreuliodd y ddau ddiwrnod nesaf yn y gwely, a dechreuodd gael cur yn ei ben a waethygodd dros y penwythnos.

“Roedd yn flinedig iawn ac fe waethygodd cyn gweld ei Feddyg Teulu ddydd Llun. Fe aeth i’r ysbyty mewn ambiwlans ac o fewn ychydig o ddiwrnodau roedd angen peiriant anadlu.

“Fe dreuliodd dair wythnos yn yr Uned Gofal Critigol ac yna tair wythnos arall ar Ward 9. Roedd y gofal a gafodd yn wych.

“Mae’n anodd iawn peidio â gallu siarad â’ch teulu yn bersonol, neu ymweld â nhw.

“Nid yw Neil yn adnabod enw’r staff yn yr Uned Gofal Critigol gan eu bod yn gwisgo PPE llawn, ond mae’n ddiolchgar iawn i bawb am y gofal a gafodd.

“Nid oeddem yn gallu cyfarfod ag unrhyw un o’r staff a oedd wedi gofalu amdano, ond ni allwn ddiolch digon iddynt am bopeth maent wedi’i wneud.

Dywedodd Sharon James, Rheolwr Ward, a oedd yn rhan o’r tîm ar Ward 9 a oedd yn gofalu am Neil a chleifion eraill a oedd yn dioddef o COVID-19: “Rydym yn falch iawn bod Neil yn ddigon da i adael ac rydym yn gobeithio y bydd yn parhau i wella gartref.

“Rydym angen i bawb barhau i ddilyn ein cyngor a chyngor y llywodraeth, parhau i leihau cyswllt gyda’i gilydd ac i adael y cartref pan mae wir angen yn unig.”