Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan profi drwy ffenestr y car yng ngogledd Cymru er mwyn cynyddu capasiti

Bydd Gogledd Cymru yn cynyddu ei gapasiti profi Coronafeirws drwy agor canolfan profi drwy ffenestr y car yn Llandudno'r wythnos hon.

Bydd y ganolfan brofi Gogledd Cymru, a fydd wedi ei lleoli ar barc bysys Builder Street, yn weithredol ddydd Mercher (29 Ebrill) ac yn dechrau profi gweithwyr hanfodol.

O ystyried lleoliad canolog y ganolfan yn rhanbarthol a’i maint sylweddol, mae’r safle yn cynyddu’r gallu i brofi yn sylweddol wrth i bartneriaid Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn amddiffyn cymunedau yn ystod y cyfnod argyfwng. 

Dim ond gweithwyr hanfodol sy’n arddangos symptomau o’r feirws fydd yn cael eu cyfeirio at y ganolfan brofi drwy ffenestr y car ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys staff y Gwasanaeth Iechyd, Heddlu, Gwasanaeth Tân a Gwasanaeth Ambiwlans; gweithwyr cartrefi gofal a gweithwyr hanfodol eraill yn unol â polisi Llywodraeth Cymru. Byddant yn gallu gyrru i’r safle a chael prawf swab heb adael eu ceir.

Mae Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi arwain y gwaith o sefydlu’r Ganolfan ar ran Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru.

Eglurodd “Bydd y ganolfan brofi drwy ffenestr y car newydd yn Llandudno yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymateb i’r Coronafeirws yma yng Ngogledd Cymru.”

“Bydd y safle yn cynyddu ein gallu profi yn rhanbarthol a bydd yn ychwanegu at Unedau Profi Cymunedol sydd gan y Bwrdd Iechyd eisoes ar gyfer gweithwyr hanfodol a staff y Gwasanaeth Iechyd ar draws y rhanbarth. Gyda’i gilydd, bydd y cyfleusterau hyn yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd ac yn darparu’r canlyniadau gorau ar gyfer cleifion gan gadw gwasanaethau hanfodol i fynd.”

Mae’r Ganolfan ar Builder Street yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Deloitte er mwyn ceisio sicrhau bod gweithwyr hanfodol yn cael eu profi ledled y DU. Mae partneriaid allweddol y cyfleuster hwn yng Ngogledd Cymru hefyd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a phartneriaid eraill Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd. 

Ychwanegodd Sacha Hatchett, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, sy’n cadeirio Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru, “Mae’r galw am brofion Coronafeirws ymysg ein gweithwyr hanfodol yn faes critigol ac yn un sy’n tyfu. Mae’r safle hwn ar Builder Street yn cynrychioli cam nesaf ein hymateb i’r gwaith profi ar gyfer gweithwyr hanfodol mewn meysydd allweddol o wasanaethau cyhoeddus.”

“Rydym wedi sefydlu’r ganolfan yn gyflym gyda chefnogaeth partneriaid a’r Fyddin er mwyn creu canolfan profi drwy ffenestr y car sy’n cynyddu ein capasiti i brofi yng Ngogledd Cymru. Mae’r ganolfan newydd hon yn ein galluogi i ddarparu profion Cornafeirws mewn modd cyfleus, amserol ac yn bwysicaf oll, diogel ar gyfer pawb sy’n rhan o’r broses.”

Ni fydd y Ganolfan yn peri risg i’r cyhoedd gan y bydd mesurau diogelwch llym yn cael eu gweithredu er mwyn diogelu pobl, staff a’r gymuned ehangach.

 

Diwedd 27.4.20

Am fwy o wybodaeth: Gethin Jones, Uned Gyfathrebu (01248) 752130

Nodyn i Olygyddion:

Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru yw’r sefydliad Swyddogol sy’n cynrychioli partneriaid argyfwng sifil posibl yng Ngogledd Cymru. Mae’n gyfrifol am hyrwyddo cynllunio argyfwng, ymarferion, gwytnwch cymunedol ac ymgysylltiad cymunedol.

Mae FCGC yn gweithio ag asiantaethau statudol, y sector gwirfoddol, busnesau a chymunedau er mwyn annog gwytnwch/cynllunio ar gyfer argyfyngau a risgiau. Mae ei waith yn canolbwyntio ar y risgiau sydd wedi eu hadnabod ar gyfer ein hardal ddaearyddol o fewn y Gofrestr Risg Gymunedol. 

Ceir Polisi profi gweithwyr allweddol (hanfodol): coronafeirws (COVID-19) Llywodraeth Cymru yma: https://llyw.cymru/polisi-profi-gweithwyr-allweddol-hanfodol-coronafeirws-covid-19