Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Frechu Glannau Dyfrdwy yn cau ar ôl cynnig dros 220,000 o ddosiau

29.03.2022

Mae staff a gwirfoddolwyr o Ganolfan Frechu Torfol Glannau Dyfrdwy wedi diolch i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth i'r ganolfan gau yr wythnos hon. 

Mae'r ganolfan frechu, a agorodd ym mis Ionawr 2021 yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, wedi cyflawni rôl allweddol yn y frwydr yn erbyn COVID-19, ac mae wedi arwain at lwyddiant mawr trwy gynnig dros 220,000 o ddosiau brechu rhag COVID-19. 

Mae'r rhaglen frechu fwyaf erioed yn y rhanbarth wedi mynd o nerth i nerth, gyda miloedd o bobl o'r GIG, undebau llafur, awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a'r lluoedd arfog yn cyfrannu at y broses gyflwyno anferthol. 

Mae Canolfan Frechu Torfol Glannau Dyfrdwy wedi cael cefnogaeth dwsinau o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser ac sydd wedi helpu i gyflwyno brechiadau mor gyflym ac effeithiol â phosibl. 

Dywedodd Thomas Halpin, Rheolwr Rhaglen Frechu Covid-19: "Yr wythnos hon, caewyd y drysau am y tro olaf yng Nghanolfan Frechu Torfol Glannau Dyfrdwy, ac rydw i'n awyddus i ddiolch i'r holl staff a gwirfoddolwyr am sicrhau bod y ganolfan mor llwyddiannus, ac rydw i'n gobeithio bod modd i bawb gymryd moment i ddathlu. Hoffwn i ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth hefyd yn ogystal ag am eu hamynedd yn ystod y cyfnod pan fuom yn gweithio o'u canolfan hamdden. 

"Mae'r staff brechu wedi gweithio'n ddiflino dros y 15 mis diwethaf i amddiffyn y rhan fwyaf o boblogaeth Gogledd Cymru, mae llwyddiant y ganolfan hon yn amlygu ymroddiad a gwaith caled y tîm cyfan i amddiffyn pobl Wrecsam a Sir y Fflint. Mae'r holl dimau sy'n gweithio ar y safle, ac yn y cefndir, yn cynnwys AD, ystadau, TG, fferyllfeydd, cyfathrebu, a'r rhai a gafodd eu hadleoli o'u swyddi arferol i'r rhaglen frechu, yn gyfrifol am gyflawniadau'r ganolfan hon a'r rhaglen frechu - rydym am ddiolch i bob un ohonynt. 

"Rydym wedi agor pum safle llai o faint mewn trefi ar draws Sir y Fflint, a fydd, gobeithio, yn lleihau amser teithio i'r rhan fwyaf o bobl ac yn gwella mynediad at y brechlyn." 

Dywedodd Karen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol (Dwyrain): "Mae wedi bod yn fraint gweithio ar y rhaglen frechu o ddyddiau cynnar iawn cael defnyddio Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fel safle brechu, a helpu i sicrhau ei bod yn weithredol. Hoffwn i ddiolch i Gyngor Sir y Fflint ac i Aura Leisure, am gefnogi'r rhaglen frechu dros y 18 mis diwethaf ac am ein galluogi i'r ddefnyddio'r man gwych hwn.  

"Rydw i'n cydnabod bod y llawr sglefrio wedi parhau i fod ar gau i bobl Gogledd Cymru ar gyfer y rhaglen frechu ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth. Rydw i hefyd yn cydnabod yr heriau y mae'r gymuned leol wedi'u profi gan fod niferoedd mawr yn mynd i'r safle i dderbyn eu brechiadau ar adegau brig. Hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r trigolion sy'n byw gerllaw ac sy'n cael mynediad i'w cartrefi trwy'r safle, rydw i'n gwybod bod diogelwch a lefel y traffig ar brydiau wedi bod yn her iddynt. 

"Mae'r tîm brechu yng Nglannau Dyfrdwy wedi bod yn aruthrol. Mae eu hagwedd hyblyg, addasadwy a phositif wedi'n galluogi i gyflwyno'r nifer uchaf o frechlynnau ar unrhyw safle unigol yng Ngogledd Cymru. Rydw i mor falch o'r cyflawniad ac rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda llawer ohonynt fel rhan o'r model newydd lle byddwn yn cyflwyno brechiadau ar draws ystod o leoliadau yn Sir y Fflint."

Dywedodd Leah Williams, Arweinydd Prosiect Brechu COVID-19 (Dwyrain): "Ers i'r ganolfan agor am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2021, mae dros 220,000 o frechiadau Covid-19 wedi cael eu rhoi. Mae hyn oherwydd ymdrechion aruthrol cynifer o bobl ac mae hyn wedi helpu i gynnig amddiffyniad cynyddol rhag y firws i bobl leol, gan alluogi ein cymunedau i gael rhyw fath o normalrwydd eto, ac yn achub bywydau dirifedi."

Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: "Hoffwn i ddiolch i bob un sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y rhaglen frechu torfol yn llwyddiant. Pob un o'r bobl a fu'n gweithio y tu ôl i'r llenni i ailbwrpasu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy gan na fyddai wedi bod modd gwneud hyn hebddynt, y meddygon, y nyrsys, y staff cymorth a'r gwirfoddolwyr am roi'r pigiadau i bobl a phawb a ddaeth i dderbyn eu pigiadau er mwyn amddiffyn eu hunain a phawb o'u hamgylch. Mae pob un ohonom yn ymwybodol nad yw COVID wedi diflannu, ond heb os, mae cyflwyno brechiadau ar garlam wedi bod yn ysgogiad o ran sicrhau ein bod ni lle'r rydym ni arni erbyn heddiw, dysgu i fyw gyda'r firws. 

"I unrhyw un sydd heb gael brechiad eto, peidiwch â phoeni, nid yw hi byth yn rhy hwyr. Er bod y Ganolfan Frechu Torfol yng Nglannau Dyfrdwy wedi cau ei drysau, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill i gynnig mynediad i gyfleusterau cymunedol lleol, a bydd gwaith y rhaglen frechu werthfawr hon yn parhau o'r mannau hynny."

Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gau canolfan frechu Ysbyty Enfys Bangor, yng Nghanolfan Brailsford, ym mis Gorffennaf 2021, a chanolfan frechu Ysbyty Enfys Llandudno, yn Venue Cymru, ym mis Awst 2021. 

------------- 

Er gwybodaeth: 

Mae clinigau cymunedol lleol yn Sir y Fflint ar agor ar gyfer dosiau cyntaf, ail ddosiau a dosiau atgyfnerthu, bob wythnos ar gyfer apwyntiadau sydd wedi'u trefnu rhwng 10am a 4pm. Trefnwch nawr trwy ffonio 03000 840004: 

Ddydd Llun - Neuadd Tref y Fflint,  Sgwâr y Farchnad, Y Fflint, CH6 5NW 

    - Eglwys San Pedr, Rosehill, Treffynnon, CH8 7TL 

Ddydd Mawrth - Canolfan Gymunedol Bistre, Ffordd Nant Mawr, Bwcle, CH7 2PX  

Ddydd Mercher - Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ewlo, Hen Ffordd yr Wyddgrug, Ewlo, Glannau Dyfrdwy, CH5 3AU 

Ddydd Iau  - Neuadd Tref y Fflint,  Sgwâr y Farchnad, Y Fflint, CH6 5NW

   - Canolfan Daniel Owen, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP 

Ddydd Gwener- Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Ewlo, Hen Ffordd yr Wyddgrug, Ewlo, Glannau Dyfrdwy, CH5 3AU

Dydd Sadwrn - Canolfan Daniel Owen, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP

Ddydd Sul - Canolfan Gymunedol Bistre, Ffordd Nant Mawr, Bwcle, CH7 2PX