Mae Canolfan Integredig Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion newydd wedi agor yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli.
Bydd y prosiect £1.6m, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cyfleusterau modern, pwrpasol ac amgylchedd therapiwtig addas i fodloni anghenion defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl oedolion ac iechyd meddwl pobl hŷn.
Mae'r ganolfan hefyd yn darparu mynediad pwynt unigol at Wasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ac Oedolion yn Nwyfor, a oedd gynt yn dameidiog ar draws sawl safle.
Mae'r Gwasanaeth Asesiad Dydd Dementia, Hafod Hedd, a gafodd ei adleoli i ofod dros dro yn Y Ffôr tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, bellach yn elwa o ofod eang newydd y tu mewn i'r adeilad newydd.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Glenys Williams: "Rydym wrth ein boddau gyda'n cartref newydd ar safle Bryn Beryl.
"Mae wedi darparu cyfleusterau modern a diweddar i ni ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth asesiad dydd dementia, bydd lle hefyd i gynyddu'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig, fel grwpiau gofalwyr a sesiynau addysgu.
"Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r tîm dylunio o'r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod yr uned bwrpasol hon yn darparu amgylchedd diogel a chyffyrddus i bobl sy'n byw gyda dementia.
"Mae pawb yn y gwasanaeth, gan gynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth, yn falch iawn gyda'r canlyniad a bydd pawb yn elwa o'r cyfleuster modern newydd."
Dywedodd Carole Evanson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y Bwrdd Iechyd, fod y ganolfan yn darparu ystod o wasanaethau iechyd meddwl gofal cychwynnol ac eilaidd yng nghalon y gymuned.
Dywedodd: "Mae'r Ganolfan Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion newydd yn rhoi cyfle i ddarparu gwasanaethau cydlynol, addas at y diben i boblogaeth Dwyfor mewn amgylchedd sy'n wirioneddol gydnaws â gofal iechyd meddwl modern, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn."
Bydd y cyfleusterau newydd yn caniatáu i'r gwasanaeth ddarparu mwy o wasanaethau asesu dydd i bobl ym mhob cyfnod o ddementia, gan gynnwys pobl sy'n profi symptomau ymddygiad a seicolegol sylweddol dementia, yn ogystal â mwy o therapi grŵp ac unigol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl oedolion.
Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae lleoli gwasanaethau dementia ac iechyd meddwl oedolion mewn un adeilad yn caniatau i bobl gael mynediad at yr elfen fwyaf priodol o'r gwasanaeth yn hawdd ac yn ddi-dor ac mae'n darparu gofal parhaus."
"Bydd hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y cleifion sy'n cael gofal yn eu cymuned eu hunain gyda llai o angen am dderbyniadau ysbyty. Mae integreiddio gwahanol dimau iechyd meddwl cymuned mewn un adeilad hefyd yn gwella cyfathrebu rhwng y sector iechyd, yr awdurdod lleol a'r trydyd sector."
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am Gyllid Cyfalaf Gofal Integredig, Julie James: “Blaenoriaeth allweddol ar gyfer y llywodraeth yw sicrhau fod pobl yn cael gofal yn agosach i gartref, gan gynyddu’r nifer o gleifion sy’n derbyn gofal o fewn eu cartrefi eu hunain a’u cymunedau lleol gan leihau’r angen am dderbyniadau ysbyty.
“Mae darpariaeth gofal ym Mryn Beryl wedi cael ei ddatblygu fel bod yr holl wasanaethau o dan un to, gan alluogi mynediad at yr elfen fwyaf priodol o’r gwasanaeth yn haws a di-dor, gan ddarparu gofal parhaus, ac agwedd ‘cofleidiol’. Gall cleifion ‘gamu i fyny a chamu i lawr’ o fewn y gwasanaethau yn dibynnu ar eu hangenion ar y pryd, agwedd hyblyg o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl oedolion a’r gwasanaeth dementia.”