Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth i'r Tîm Awdioleg am eu 'caredigrwydd' a 'thosturi' tuag at ddynes 98 oed

Mae’r Tîm Awdioleg wedi derbyn cryn ganmoliaeth wedi iddynt helpu dynes 98 oed a gafodd drafferthion gyda’i diffyg clyw yn ystod y pandemig.

Mae Betty Williams yn breswylydd yng Nghartref gofal Rhiwlas yn Y Fflint, ac ar ôl derbyn prawf COVID-19 positif, bu raid iddi ynysu yn ei hystafell. 

Yn ystod yr amser hwn, roedd ei diffyg clyw yn achosi pryder mawr iddi ac roedd hi’n cael anawsterau i gyfathrebu gyda staff a’i theulu dros y ffôn.

Mae ei mab, Nick Williams, wedi canmol y Tîm Awdioleg am eu hymateb cyflym ac am ddarparu cymhorthydd clyw newydd iddi.

Dywedodd: “Tra bu mam yn ynysu, cafodd gryn drafferth i gyfathrebu gyda mi dros y ffôn a hefyd gyda’r staff.

“Roedd ei chlyw yn gwaethygu ac roedd yn creu pryder mawr iddi, ac roedd hi’n teimlo’n unig dros ben.

“Cysylltais ag Ysbyty’r Wyddgrug ac fe wnaethant fy rhoi mewn cysylltiad â’r Tîm Awdioleg.  Daeth dwy o’r tîm i’r adwy gyda datrysiad.  Roeddent yn gallu creu cymhorthydd clyw newydd o bell a’i adael gyda staff yn y cartref gofal, gan ddarparu cymhorthydd clyw newydd iddi ar unwaith.”

“Gadawodd eu hymateb argraff arnaf – roeddent yn hollol wych, a gwnaeth wahaniaeth mawr i adferiad fy mam.

“Mae fy mam yn ddynes falch iawn, felly daeth y cymhorthydd clyw newydd â’i hyder yn ôl.  Mae hyn i gyd yn sgil y Tîm Awdioleg - maen nhw’n glod i’r GIG, ac ni wnaf byth anghofio eu caredigrwydd a thosturi.”

Meddai John Day, Cyfarwyddwr Clinigol Awdioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr “Mae’n braf clywed bod Mrs Williams bellach yn gallu clywed a chyfathrebu’n well o ganlyniad i gymorth proffesiynol Delyth a Megan.

“Gwerthfawrogir adborth fel hyn gan Mrs Williams a’i mab gan y Tîm Awdioleg.

“Mae gwisgo mygydau wyneb yn ychwanegu at heriau pobl sydd wedi colli clyw oherwydd nad oes modd iddynt ddarllen gwefusau, felly mae defnyddio cymhorthydd clyw sy’n ffitio’n dda o bwys mawr.

“Rydym wedi gweithredu gwasanaeth post a ffôn newydd i gleifion Awdioleg ers y cyfyngiadau symud yn sgil COVID.  Y newyddion da yw ein bod wedi dechrau gweld mwy o gleifion wyneb yn wyneb pan fo angen gwneud hyn.”