Bydd pobl gydag anawsterau clyw ar draws Gogledd Cymru yn ei chael hi'n haws cael mynediad at gefnogaeth arbenigol yn eu Meddygfa, diolch i fuddsoddiad mewn gwasanaeth GIG newydd.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyflwyno Uwch Ymarferwyr Awdioleg i feddygfeydd ar draws y rhanbarth.
Bydd eu cyflwyno yn sicrhau y gall mwy o bobl ag anawsterau clyw, tinitws a phroblemau cydbwysedd dderbyn gofal arbenigol yn gynt ac yn agosach i'w cartrefi, gan ryddhau hyd at 22,000 o apwyntiadau meddygon teulu bob blwyddyn.
Credir bod anawsterau clyw yn effeithio ar oddeutu 130,000 o bobl yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys saith o bob deg unigolyn dros 70 mlwydd oed.
Ar hyn o bryd mae Awdiolegwyr Arfer Uwch (APA) ar waith mewn 36 o feddygfeydd Meddygon Teulu ar draws Gogledd Cymru, gan gefnogi tua 25 y cant o boblogaeth y rhanbarth.
Fel rhan o ddull fesul cam, bydd Awdiolegwyr Arfer Uwch yn cael eu cyflwyno i'r meddygfeydd sy'n weddill dros y tair blynedd nesaf.
Ar ôl eu sefydlu, bydd Awdiolegwyr Arfer Uwch hefyd yn goruchwylio darpariaeth gwasanaeth tynnu cŵyr clust, gan gefnogi'r pedwar y cant o'r boblogaeth sy'n dioddef o gŵyr clustiau problemus.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy na 35,000 o bobl wedi elwa o'r gwasanaeth APA yn y meddygfeydd teulu lle cynhaliwyd y rhaglen beilot.
Mae’r model gwasanaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, gan ennill Gwobr ‘Datblygu Gweithlu Cynaliadwy’ GIG Cymru a bod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Hyrwyddo Gofal Iechyd y DU yn y categori ‘Arloesi mewn Gofal Iechyd’.
Mae Canolfan Feddygol Clarence House yn y Rhyl yn un o 36 Meddygfa yng Ngogledd Cymru sydd eisoes wedi elwa o gyflwyno Awdiolegwyr Arfer Uwch.
Dywedodd Dr Simon Dobson, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Clarence House: "Mae cyflwyno Awdiolegwyr Arfer Uwch wedi ei gwneud yn haws i bobl ag anawsterau clywed gael gafael ar y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt, gan ryddhau amser ein meddyg teulu i drin achosion eraill. Rwy'n falch iawn bod y gwasanaeth, a werthfawrogir gan gleifion a staff, ar waith i gael ei gyflwyno ar draws Gogledd Cymru."
Dywedodd Jane Wild, Gwyddonydd Ymgynghorol Clinigol a Phennaeth Awdioleg Oedolion yn BIPBC:
"Rydym yn gwybod y gall anawsterau heb eu rheoli, yn broblemau clyw, tinitws a chydbwysedd, gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd pobl. Trwy alluogi pobl i gael eu trin yn agos i'w cartref gan Awdiolegydd Arfer Uwch yn y lle cyntaf, gallwn sicrhau eu bod yn derbyn y gofal arbenigol sydd ei angen arnynt yn gynt, wrth ryddhau apwyntiadau meddygon teulu.
"Mae'r gwasanaeth yn cael ei ymestyn fel rhan o broses fesul cam, dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar oherwydd y bydd hi'n cymryd amser i recriwtio, hyfforddi staff a chyflwyno'r gwasanaeth i feddygfeydd ar draws y rhanbarth."