Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys newydd yn helpu i leihau pwysau ar Feddygon Teulu a'r Adran Achosion Brys

Lleolir tair Canolfan Gofal Sylfaenol Brys newydd ar draws Gwynedd a Môn i helpu i leihau pwysau ar feddygon teulu ac Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn llwyddiannus i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth a fydd yn atgynhyrchu'r Ganolfan Sylfaenol Gofal Brys sydd eisoes wedi’i sefydlu yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Bydd y fenter yn gwasanaethu tair canolfan gofal sylfaenol yn Ysbyty Alltwen, Ysbyty Penrhos Stanley ac o fewn yr adran cleifion allanol yn Ysbyty Gwynedd.

Bydd y prosiect yn targedu achosion gofal sylfaenol brys ar yr un diwrnod, yn creu capasiti i gefnogi meddygfeydd a lleihau derbyniadau diangen i'r Adran Achosion Brys.

Dywedodd Dr Nia Hughes, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clwstwr Arfon: "Bydd y Ganolfan Sylfaenol Gofal Brys yn cefnogi meddygfeydd drwy ddarparu capasiti ychwanegol i helpu i asesu a thrin cleifion gyda phroblemau meddygol acíwt ar yr un diwrnod.

“Efallai y bydd cleifion sydd â symptomau meddygol penodol yn derbyn apwyntiad gyda chlinigwr yn y Ganolfan Sylfaenol Gofal Brys. Bydd hyn wedyn yn helpu i ryddhau capasiti i'r meddygon teulu ddelio â chleifion gyda phroblemau meddygol mwy cymhleth neu gronig.

“Bydd hyn, gobeithio, yn ein helpu ni rywfaint gyda'r galw mawr am wasanaethau gofal sylfaenol yr ydym yn ceisio delio ag o ar hyn o bryd.”

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm, gellir canfod rhagor o fanylion am amseroedd agor a'r lleoliad y bydd y Ganolfan Sylfaenol Gofal Brys yn gweithredu ohono ar ddyddiau penodol yma. Y tu allan i'r oriau hyn, bydd y gwasanaeth Meddygon Teulu Tu Allan i Oriau yn parhau i gefnogi cleifion lle nad oes angen gofal brys.

Caiff cleifion sy'n mynychu'r Adran Achosion Brys eu hasesu a gwneir cyfeiriad at y Ganolfan Sylfaenol Gofal Brys os yw’n addas.

Dywedodd Eleri Evans, Pennaeth Nyrsio Gofal Brys yn Ysbyty Gwynedd, "Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio ar y prosiect yma gyda’n cydweithwyr o fewn Gofal Sylfaenol.

“Ymhen amser bydd cleifion yn gallu rheoli eu cyflyrau mewn ffordd fwy priodol drwy fynychu’r lle iawn a chael eu gweld gan y gwasanaeth iawn ar yr amser iawn. 

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm gofal sylfaenol er mwyn datblygu’r gwasanaeth gyda'n gilydd.”

Nid yw'r gwasanaeth hwn yn cynnig clinig galw heibio, bydd angen i gleifion gysylltu â’u meddygfa yn y lle cyntaf a fydd wedyn yn gwneud asesiad i weld p’un a ydynt yn addas i gael eu cyfeirio at y Ganolfan Sylfaenol Gofal Brys.