Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn cynnal sesiwn Cwestiwn ac Ateb ar frechlynnau COVID-19 ar gyfer merched beichiog a merched sy'n bwydo o'r fron

11/08/2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cynnal dau sesiwn Cwestiwn ac Ateb ar frechlynnau COVID-19 ar gyfer merched beichiog ac sy’n bwydo o’r fron sy’n byw yn Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd Stacey Jones, Metron y rhaglen Frechu COVID-19 ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam, ar gael i drafod yr wybodaeth ddiweddaraf i ferched beichiog neu sy’n bwydo o’r fron ar hyn o bryd ar y brechlynnau COVID-19 ac yn ateb unrhyw gwestiynau.

Bydd y sesiwn cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener 13 Awst, dros y ffôn - 07825 530212, ffoniwch rhwng 9am-1pm. Bydd yr ail sesiwn, a gynhelir mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW), yn digwydd dros Zoom ddydd Llun 20 Awst am 10am, cofrestrwch yma.

Meddai Stacey: “Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw famau beichiog ac yn gofyn iddynt ymuno â’n sesiynau Cwestiwn ac Ateb i drafod eu pryderon, helpu i ateb cwestiynau a lleddfu unrhyw ofnau.

“Mae brechlynnau COVID-19 yn cynnig yr amddiffyniad gorau i ferched yn erbyn COVID-19 all fod yn ddifrifol yn hwyrach ymlaen yn y beichiogrwydd i rai merched.

“Nid yw’r brechlynnau yn cynnwys coronafirws byw, nac unrhyw gynhwysion ychwanegol sy’n niweidiol i ferched beichiog neu eu babanod.”

Mae’r Cyd Bwyllgor ar Frechiadau ac Imiwneiddiadau (JCVI) wedi cynghori y dylai merched beichiog gael cynnig y brechlynnau COVID-19. Mae tystiolaeth ar y brechlynnau COVID-19 yn cael eu hadolygu’n barhaus gan Sefydliad Iechyd y Byd a chan y cyrff rheolaethol yn y DU, UDA, Canada ac Ewrop.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch beichiogrwydd a’r brechlynnau COVID-19.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y sesiwn Cwestiwn ac Ateb cysylltwch â Sandra Anderson, Swyddog Ymgysylltu, dros e-bost Sandra.Anderson2@wales.nhs.uk