Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn cefnogi ymgyrch i gael pobl i symud

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cefnogi ymgyrch sy'n annog pobl i symud a gwella eu hiechyd a'u lles.

Nod cydweithrediad Beth am Symud Gogledd Cymru yw cefnogi pawb yng Ngogledd Cymru i symud mwy, a drwy wneud hynny, cefnogi eu lles corfforol a meddyliol.

Gall bod yn fwy actif fod o fudd i iechyd a lles, yn ogystal â lleihau’r risgiau o gyflyrau megis clefyd coronaidd y galon a rhai mathau o ganser. Gall hefyd gefnogi pobl i gynnal pwysau iach, gwella lles meddyliol, lleihau'r risgiau o godymau a lleihau cyflyrau sy'n effeithio'r cyhyrau a'r esgyrn.

Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae cefnogi pobl i wneud y dewisiadau cywir fel y gallant fyw bywyd hir ac iach yn rhan fawr o'n strategaeth hir dymor, Byw'n Iach, Aros yn Iach. Nod Beth am Symud yw cefnogi ein cymunedau i wneud hyn drwy annog pobl i gadw'n actif.

"Ni hefyd yw'r cyflogwr mwyaf yng Ngogledd Cymru, felly mae hefyd yn bwysig i ni gefnogi iechyd a lles ein staff."

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymuno â mwy na 30 sefydliad arall sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu staff a'u cleifion i symud mwy drwy ddarparu cyfleoedd a lleoliadau sy'n galluogi pobl i symud mwy ym mhob agwedd o'u bywyd pob dydd.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch Beth am Symud ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.