Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Lansio Ymgyrch Recriwtio ar y Teledu, Radio a'r Wasg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio ymgyrch recriwtio yr wythnos hon, gan apelio at bobl broffesiynol clinigol i ymuno â’r frwydr yn erbyn Covid-19.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r Bwrdd Iechyd yng ngogledd Cymru wedi lansio hysbyseb teledu a gaiff ei ddarlledu ar bob sianel Sky yng ngogledd Cymru a gorllewin Sir Gaer. 

Er bod nifer fawr o wirfoddolwyr wedi cynnig eu gwasanaeth, mae’r Bwrdd Iechyd mewn gwir angen am feddygon, nyrsys a therapyddion cofrestredig a staff cefnogi therapi ar frys. 

Yn ogystal â’r staff clinigol ychwanegol sydd eu hangen yn ysbytai llym Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac ym Maelor Wrecsam, ac o fewn Gwasanaethau’r Gymuned, mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn recriwtio ar gyfer y tri Ysbyty Enfys yn Llandudno, Glannau Dyfrdwy a Bangor.

Meddai Lawrence Osgood, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithlu a Gwella Betsi Cadwaladr “Mae gennym ystod o swyddi llawn amser, dros dro, hyblyg a banc ar gael i ddechrau ar unwaith.  Rydym yn gallu cynnig cefnogaeth a hyfforddiant llawn.  Bydd eich cyfraniad yn gwneud mwy o wahaniaeth nac erioed, nid yn unig i’n cleifion, ond i’n cydweithwyr a’r gymuned ehangach.

Mae paratoi ar gyfer y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau hefyd yn allweddol.  Mae Stephen Newton yn Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yn ardal y Canol.  Dywedodd ar hyn o bryd mae ganddynt feddygon ac uwch nyrsys ymarferwyr i ddarparu gwasanaeth, ond maen nhw’n edrych ar ddyblu nifer y staff i baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig mewn galw. 

“Rydym am sicrhau bod ein gwasanaeth wedi’i staffio’n llawn ac wedi’u hyfforddi cyn y cynnydd disgwyliedig mewn galw.  Rydym yn galw ar feddygon teulu ac uwch nyrsys ymarferwyr i roi ychydig mwy o oriau bob wythnos neu fis i helpu’r gwasanaeth.”

Os hoffech fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb i ddychwelyd neu gynnig mwy o oriau i gefnogi’r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau, ewch i https://bipbc.gig.cymru/covid-19/betsineedsyou/