Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i gynnal digwyddiad recriwtio brechiadau yn barod ar gyfer rhaglen frechu atgyfnerthu'r hydref

Ydych chi awydd chwarae rhan ymarferol yng nghyflwyniad y brechlyn COVID-19 yng Nghymru?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn recriwtio staff brechu ychwanegol yn barod ar gyfer y rhaglen atgyfnerthu COVID-19, a fydd yn dechrau’r mis nesaf.

Mae gan y Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru nifer o gyfleoedd ar gael ar gyfer brechwyr a gweinyddwyr brechu i weithio mewn clinigau ar draws y rhanbarth ar sail tymor penodol hyd nes diwedd Mawrth 2022.  

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i ymuno â digwyddiad e-recriwtio’r bwrdd iechyd, a gynhelir ddydd Llun 23 Awst dros Microsoft Teams.

Bydd y digwyddiad rhithwir yn rhoi cyfle i chi siarad â’r staff sy’n gysylltiedig â’r rhaglen a dod i wybod sut brofiad ydyw i weithio yng nghanolfannau brechu’r bwrdd iechyd.

Yn dilyn y digwyddiad, bydd y rhai sy’n mynychu yn cael eu gwahodd i ymgeisio ar-lein, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol.  Bydd proses recriwtio carlam yn sicrhau y gall staff newydd gael eu hadleoli’n gyflym.  

Mae Gill Knight wedi gweithio fel brechwr COVID-19 ers mis Rhagfyr 2020. Meddai: “Mae gweithio ar y rhaglen frechu COVID-19 yn wobrwyol iawn ac rydym yn falch iawn o’r rôl yr ydym ni wedi’i chwarae i droi’r llanw ar y pandemig.

“Dyma’r rhaglen frechu fwyaf yn hanes y GIG ac mae wedi cymryd ymdrech tîm mawr i frechu gymaint o bobl, mor gyflym.

“Os ydych yn chwilio am sialens newydd, gweithio mewn rôl wobrwyol a gwerth chweil, yna byddwn yn argymell ymuno â’n timau brechu.”

Mae’r Cyd-bwyllgor Brechiadau ac Imiwneiddiadau (JCVI) wedi cynghori y dylai dos atgyfnerthol o’r brechlyn COVID-19 gael ei roi i’r rhai mwyaf bregus, gan fod tebygolrwydd y bydd yr imiwnedd a ddarperir o gael dau ddos yn gostwng dros amser.

Yn seiliedig ar gyngor interim y JCVI, mae BIPBC yn bwriadu cynnig dos atgyfnerthu i’r grwpiau canlynol o bobl, fel rhan o broses dau gam:

Cam 1:

  • Oedolion dros 16 oed sydd â system imiwnedd gwan
  • Y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer oedolion hŷn
  • Pob oedolyn dros 70 oed
  • Oedolion dros 16 oed a ystyrir i fod yn fregus iawn yn glinigol
  • Gweithwyr rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol

Cam 2:

  • Pob oedolyn dros 50 oed
  • Oedolion 16-49 oed sydd yn y grŵp mewn perygl o’r ffliw neu COVID-19.
  • Cysylltiadau oedolion sydd â system imiwnedd gwan

Nid oes angen i bobl yn y grwpiau hyn gysylltu â’r bwrdd iechyd gan y bydd rhywun yn cysylltu â nhw’n uniongyrchol pan ddaw eu tro nhw.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad e-recriwtio brechu, cliciwch ar y ddolen isod, dewiswch eich sesiwn (bore neu brynhawn) a llenwch eich manylion.  Bydd nodyn atgoffa a dolen i gael mynediad at y digwyddiad ar Microsoft Teams yn cael eu hanfon yn agosach at yr amser.

https://outlook.office365.com/owa/calendar/MassVaccinationCentreRecruitmentDay@nhswales365.onmicrosoft.com/bookings/