Mae pobl yng Ngogledd Cymru sy'n cael anawsterau iechyd meddwl yn cael eu hannog i gael mynediad at ystod o gyrsiau therapi am ddim ar-lein, sydd ar gael heb gyfeiriad gan eu Meddyg Teulu.
I ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio partneriaeth gydag elusen Tan y Maen yn Ne Gwynedd i helpu pobl i gael mynediad at y cyrsiau newydd "SilverCloud".
Mae "SilverCloud" ar gael yn ddiweddar yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n 16 oed â hyn yng Nghymru, fel rhan o becyn cefnogaeth gwasanaeth iechyd meddwl gwerth £1.3m a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n cynnig rhaglen 12 wythnos o gefnogaeth i bobl sy'n profi pryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, gan ddefnyddio dulliau megis Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT).
Mae "SilverCloud" yn cael ei gefnogi gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein.
Bydd partneriaeth BIPBC gyda Tan y Maen yn galluogi pobl i gael eu hasesu i weld os mai "SilverCloud" yw'r adnodd gorau iddynt hwy, ac yn cael help i gael mynediad at gyrsiau a apiau eraill sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.
Dywedodd Dr Alberto Salmoiraghi, Cyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu:
"Gall "SilverCloud" ddarparu manteision go iawn i bobl ar draws yr ardal sy'n cael trafferth gyda problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol ac sydd angen cefnogaeth ychwanegol, ond nad ydynt yn bodloni ein meini prawf am wasanaethau iechyd meddwl fwy arbenigol.
"Er nad hwn fydd y platfform fwyaf priodol i bawb, diolch i’n partneriaeth â Tan y Maen, gellir asesu pobl am eu haddasrwydd ar gyfer SilverCloud ac apiau eraill iechyd meddwl, a gallant gael cefnogaeth barhaus i gael mynediad atynt. Gall hyn fod o fudd i bobl sy'n cael trafferth mynd ar-lein neu lywio'r cyrsiau gwahanol sydd ar gael.
"Mae cyflwyno'r "SIlverCloud" yn amserol ac mae'n cael ei groesawu’n fawr, gyda disgwyl i'r galw am wasanaethau iechyd meddwl gynyddu'n sylweddol oherwydd effaith y pandemig COVID-19."
Mae partneriaeth BIPBC gyda Tan y Maen yn rhan o fuddsoddiad blynyddol gwerth £2.75m gyda dros 30 o wahanol sefydliadau trydydd sector, sy'n helpu i ddarparu cwnsela, grwpiau therapi, therapïau ymddygiad gwybyddol a gweithgareddau therapiwtig eraill ar draws Gogledd Cymru.
Dywedodd Phil Griffiths, Prif Swyddog yn Tan y Maen:
“Rydym wedi bod yn defnyddio cefnogaeth ar sail ap am bron i flwyddyn bellach ac rydym eisoes wedi darganfod fod manteision sylweddol i’r ap dros ddulliau traddodiadol, yn enwedig y gallu i ddarparu ymyriadau cynnar a dynodi iechyd meddwl sy’n dirywio. Mae fel cael therapydd yn eich poced.
“Mae’n well gan rai pobl sy’n ei chael yn anodd mynd i apwyntiad wyneb yn wyneb, ble mae trefniadau teithio, trefniadau teulu neu waith yn ei wneud yn anodd, gael cefnogaeth drwy’r ap yn hytrach na chael dim help. Mae “Silvercloud” yn ychwanegiad mawr at hyn a bydd yn galluogi pobl i ddewis y gefnogaeth sydd oriau iddynt hwy a chael adborth arbenigol i gynorthwyo eu hadferiad.”
Am fwy o wybodaeth ar "SilverCloud" edrychwch ar wefan BIPBC: https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/hwb-iechyd-meddwl/silvercloud-therapi-ar-lein-am-ddim/