Neidio i'r prif gynnwy

Bachgen ifanc yn ymgymryd â her Gwersyll Cychwyn Everest i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl

23 Hydref, 2023 

Mae bachgen dewr yn ei arddegau wedi derbyn her fawr ac ar fin teithio i Wersyll Cychwyn Everest er cof am ei dad, a gymerodd ei fywyd ei hun, yn drasig iawn, dair blynedd yn ôl.

Bydd Ioan Rhun Jones o Lanfairpwll, Ynys Môn, sydd yn 17 oed, yn mynd ar daith gerdded i Wersyll Cychwyn Everest ar 31 Mawrth, 2024 ac eisoes mae wedi cyrraedd ei darged ariannol o £2,260 ar gyfer yr elusen iechyd meddwl, Shout.

Dim ond 14 oed oedd pan gollodd ef a’i frawd Llion eu tad, ac roedd yn ei chael hi’n anodd siarad am ei deimladau yn ystod y cyfnod dirdynnol hwnnw.

“Pan gollais fy nhad fe gafodd hynny effaith enfawr arnaf i ac roeddwn i’n cael trafferth siarad am y peth. Digwyddodd hyn ar ddechrau’r pandemig COVID ac fe wnaeth hynny’r sefyllfa gymaint yn waeth” meddai.

“Mae elusennau fel Shout yn anhygoel, dyma’r unig wasanaeth negeseuon testun cyfrinachol, rhad ac am ddim sydd ar gael 24/7 yn y DU i unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi a’u hiechyd meddwl. Trwy wneud yr her hon, rydw i eisiau codi ymwybyddiaeth o’r elusen, ond dw i hefyd am annog pobl ifanc i geisio cefnogaeth os ydyn nhw’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.”

Bydd y daith orchestol hon yn cymryd tua pythefnos i'w chwblhau ac yn  golygu teithio i uchder o 5,500m uwchben lefel y môr. Er mwyn paratoi ar ei chyfer, mae Ioan wedi bod yn cymryd rhan mewn nifer o heriau anodd. Mae’r rhain yn cynnwys beicio 100 milltir yn y Tour De Môn, Her Chwe Llwybr yr Wyddfa a chwblhau marathonau ‘ultra’. Cyn bo hir bydd yn gwneud y ‘Manchester Ultra Loop’, sydd yn golygu 8 awr o redeg, y Pen Llŷn Ultra, a bydd hefyd yn cwblhau’r ‘Dartmoor Way 100k Circular’ erbyn diwedd y flwyddyn.

“Rwyf wrth fy modd gyda chwaraeon ac ymarfer corff ac mae’r rhain mor bwysig i’ch iechyd meddwl, mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr” meddai Ioan.

“Mae hyn hefyd yn rhywbeth rydw i eisiau ei hyrwyddo drwy wneud yr her hon. Rydyn ni’n byw mewn ardal wych a hoffwn annog mwy o bobl i fynd allan i’r awyr agored, rhywbeth sydd o fudd mawr i’w hiechyd meddwl.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd i Wersyll Cychwyn Everest, mae’n mynd i fod yn wahanol iawn i unrhyw beth rydw i wedi’i wneud o’r blaen.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr achos hyd yn hyn, rwyf wedi cael cefnogaeth wych ac yn gwerthfawrogi’r holl roddion sydd wedi fy helpu i gyrraedd fy nharged yn barod!”

Dywedodd mam Ioan, Kelly Jones, Metron Ward Plant Ysbyty Gwynedd ei bod yn hynod o falch o’i mab am y modd y mae wedi troi sefyllfa drasig yn un positif.

“Mae Ioan yn fab anhygoel ac mae’n gymaint o ysbrydoliaeth – allwn i ddim bod yn fwy balch ohono” meddai.

“Mae wedi rhoi ei egni i gyflawni rhywbeth cadarnhaol ac mae eisiau codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, sy’n anhygoel.

“Wrth gwrs, fel mam, rwy’n bryderus pan fyddaf yn meddwl amdano’n teithio ar ei ben ei hun i ymgymryd â’r her ond rwy’n gwybod y bydd yn anhygoel a does gen i ddim amheuaeth o gwbl y bydd yn llwyddo i gwblhau’r daith.

“Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan y teulu, yr ysgol ac yn amlwg gan ei ffrindiau sy’n ei gefnogi ar hyd y daith.”

Mae Dr Alberto Salmoiraghi, Cyfarwyddwr Meddygol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud ei fod yn cefnogi menter Ioan yn llwyr ac yn pwysleisio pwysigrwydd agor eich calon yn gynnar pan fyddwch mewn unrhyw drafferthion iechyd meddwl.

Dywedodd: “Gall ymyraeth gynnar wneud gwahaniaeth enfawr i bobl ac ar hyn o bryd mae nifer o leoedd a gwasanaethau statudol ac anstatudol i gysylltu â nhw os yw rhywun yn profi anawsterau gyda’u hiechyd meddwl. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl ar hyn o bryd i ofyn am help – mae’n bwysig iawn bod yn agored a siarad am unrhyw broblemau yr ydych yn mynd drwyddynt, mae cymorth ar gael bob amser.”

Mae gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i gael mynediad at yr ystod o gymorth y gallai fod ei angen arnoch ar ein hwb llesiant ac iechyd meddwl yma

I gyfrannu at gronfa her Ioan gallwch ymweld â’i dudalen JustGiving yma