Neidio i'r prif gynnwy

Awgrymiadau gwych ar ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles dros dymor yr Ŵyl

Mae'r Nadolig eleni'n debygol o fod yn wahanol i lawer ohonom. Mae Dr Alys Cole-King, Seiciatrydd Ymgynghorol, wedi rhannu ei hawgrymiadau ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles dros dymor yr Ŵyl.

Heb os, mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb. Ar adegau fel hon, mae hyd yn oed yn bwysicach ein bod yn gofalu amdanom ni'n hunain a'r rhai sydd o'n hamgylch.

Nid yw'r angen i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles yn stopio ar adeg y Nadolig. Gall ychydig bach o gynllunio fod yn help mawr i ni wneud y gorau o'r sefyllfa.

Y Nadolig hwn, efallai y byddwch am roi cynnig ar rywbeth newydd neu i addasu eich dathliadau arferol. Defodau a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid yw'r hyn sy'n gwneud tymor yr Ŵyl yn arbennig i lawer ohonom. Mae'r Nadolig yn adeg dda i ofyn sut hwyl sydd ar bobl ac i fod yn barod i wrando ac mae angen hynny ar bawb. Mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd gofyn am gymorth os ydynt yn cael anawsterau felly mae'n bwysicach nag erioed i 'ymestyn atynt' ac i ofyn i bobl sut hwyl sydd arnynt fel mater o drefn - sut hwyl sydd arnynt 'go iawn'.

Dyma ychydig o gyngor defnyddiol ar leihau ffactorau sy'n achosi straen dros gyfnod y Nadolig:

  1. Nid yw'r Nadolig yn ddigwyddiad un diwrnod yn unig! Er bod 25 Rhagfyr mor bwysig i lawer o bobl, mae cyfnod y Nadolig yn hirach o lawer. Peidiwch â rhoi eich hun o dan ormod o bwysau i gael 'y diwrnod perffaith'. I rai, efallai y bydd y disgwyliad a'r pwysau i wneud rhywbeth arbennig yn eu rhoi o dan fwy o straen nag arfer. 
     
  2. Ewch i'r awyr agored: Ceisiwch gael ychydig o awyr iach ac i symud eich corff, waeth sut mae'r tywydd, gwisgwch ddillad cynnes ac ewch i gael ychydig o awyr iach. Gall hyd yn oed gerdded am ddeg munud fod yn fuddiol i'ch iechyd corfforol a'ch iechyd meddwl. Gall mannau gwyrdd gael effaith bositif bwysig ar ein lles felly gorau oll os gallwch fynd allan i fyd natur. Mae hefyd yn gyfle gwych i weld eraill; os na allwch gyfarfod dan do am unrhyw reswm, gallwch ymuno ag eraill i fynd am dro gan gadw pellter cymdeithasol
     
  3. Byddwch yn onest am yr hyn y mae arnoch chi eisiau ei wneud - mae'n iawn dweud 'Na'. Efallai y byddwn yn teimlo o dan bwysau i wneud pethau na fyddwn am eu gwneud, gan ein bod yn awyddus i blesio eraill. Gall hyn roi mwy o bwysau ar sefyllfa sydd eisoes yn anodd os ydych yn cael anhawster. Os teimlwn na allwn gyrraedd disgwyliadau pobl eraill, efallai y byddwn yn teimlo'n annifyr neu'n euog ac rydym yn anghofio ei bod yn iawn dweud 'na' neu i ohirio rhywbeth hyd nes ein bod yn teimlo'n barod i'w wneud. Os byddwn yn ymateb yn gwrtais a gyda pharch, dylem deimlo'n hyderus ac yn hapus gyda'n hunain am fod wedi gwneud hynny. Yr allwedd yw cael cydbwysedd heb beryglu ein hiechyd neu'n lles ein hunain.
     
  4. Rhowch gynnig ar rywbeth newydd! Trwy osgoi gwneud yr un peth yr ydych wedi'i wneud ar bob Nadolig arall, rydych yn llai tebygol, gobeithio, o dreulio'r diwrnod cyfan yn cymharu (a hynny efallai'n anffafriol!) â diwrnodau Nadolig blaenorol.
     
  5. Peidiwch â rhoi eich hun o dan bwysau am anrhegion. Os yw arian yn brin neu os nad ydych wedi gallu prynu anrhegion, beth am roi cynnig ar roi tocynnau cartref fel anrheg am 'arwyddion o garedigrwydd' fel trefnu picnic, gwibdaith neu wylio eu 'hoff sioe deledu a hynny heb gwyno' neu wneud gwaith tŷ.
     
  6. Trefnwch rywbeth arbennig i'w wneud ar ôl tymor yr Ŵyl Fel hyn, gallwch sicrhau bod gennych rywbeth arbennig i edrych ymlaen ato ar ôl tymor yr Ŵyl. Gallai hyn gynnwys cyfarfod â'r teulu a ffrindiau pan fydd COVID-19 yn caniatáu hynny, neu amser i chi'ch hun.
     
  7. Gwnewch Focs Hunanofal Mae bocs hunanofal yn rhywbeth y gallwch ei wneud, yn llawn pethau sy'n gwneud i chi yn unig deimlo'n hapus, sy'n eich helpu i deimlo'n dda, yn fwy cysurus ac yn eich helpu i ymlacio. Y syniad yw gwneud y bocs ymlaen llaw fel ei fod gennych chi pan fo angen. Mae rhai pobl yn hoffi gwneud bocs ‘o bethau go iawn' (e.e. te/coffi arbennig, bisgedi, cannwyll sent, pac o gardiau, llyfr neu bos) - mae eraill yn creu bocs rhithiol ac yn cynnwys cerddoriaeth neu ffilmiau wedi'u lawrlwytho.
     
  8. Nid oes dim yn berffaith - peidiwch â disgwyl gormod! Mae'n debyg y bydd o leiaf un digwyddiad anffafriol dros y gwyliau. Peidiwch â rhoi eich hun o dan ormod o bwysau i bopeth fod yn berffaith. Mae safbwyntiau gwahanol yn normal, ac os bydd gwrthdaro dros rywbeth, pwyll piau hi a cheisiwch faddau'n gyflym - mae pawb wedi bod o dan bwysau, felly nid yw'n syndod y gallai pobl golli tymer.  Yr allwedd yw i bob un ohonom geisio bod yn fwy caredig ac yn barod i ddeall ac i ddod o hyd i'r tir cyffredin os gallwn ni wneud hynny.
     
  9. Trefnwch amser i chi'ch hun a hunanofal Gall cael amser i chi'ch hun fod yn anodd ar y gorau felly pan fydd tymor yr Ŵyl yn cyrraedd, byddwn yn anghofio blaenoriaethu ni ein hunain, yn aml. Trwy gynllunio ymlaen llaw a dod o hyd i ffyrdd syml o gael amser i chi'ch hun, gall helpu i wella ein lles. Yn ddelfrydol, mae angen i ni fuddsoddi yn ein lles bob dydd. Os na fyddwn yn gofalu amdanom ni ein hunain, sut allwn ni ofalu am eraill? Nid yw amser i chi'ch hun yn rhywbeth y dylech deimlo'n euog amdano. Gall amserlen eich helpu i ganfod beth mae angen ei wneud yn wirioneddol yn ystod y dydd, cyn i chi allu cael yr amser hwnnw rydych wedi'i bennu i chi'ch hun. Os nad ydych yn siŵr sut fyddech yn treulio amser i chi'ch hun, ceisiwch wneud nodyn o bethau rydych yn mwynhau eu gwneud. Trwy fod â rhestr o bethau yr ydych yn mwynhau eu gwneud, gall fod o gymorth mawr i chi osgoi'r temtasiwn o golli allan ar amser i chi'ch hun. Hyd yn oed os yw hynny ond yn cynnwys 'paned heb i eraill dorri ar draws am ddeg munud pan fyddwch chi'n deffro.
     
  10. Byddwch yn Agored Mae'r Nadolig yn aml yn adeg anodd i lawer o bobl ac mae gallu rhannu eich pryderon, gofidiau a hefyd eich nodau a'ch amcanion gyda rhywun yn ffordd wych o'ch helpu i deimlo eich bod yn cael rhyddhad dros dymor yr Ŵyl. Yn aml, gall rhannu ein gofidiau gyda rhywun sy'n dda am wrando, ein helpu i leihau'r baich arnom ac i gael persbectif newydd ar y pethau sy'n ein poeni ni.

Os ydych yn wynebu anawsterau mawr, gofynnwch am gymorth. Efallai hefyd y byddwch am ystyried gwneud Cynllun Diogelwch. Mae hyn yn gam ar gyfer iechyd meddwl sy'n debyg i roi gwregys amdanoch mewn car er mwyn eich cadw'n ddiogel. Bydd fel arfer yn cynnwys pethau y gallwch eu gwneud i chi'ch hun, ffyrdd o wneud eich sefyllfa'n fwy diogel a sut i fanteisio ar gymorth emosiynol, cymdeithasol a brys. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Cymorth ar gyfer meddwl am hunanladdiad - NHS (www.nhs.uk)

Mae nifer o asiantaethau y gallwch gysylltu â nhw os ydych yn teimlo eich bod wedi'ch gorlethu y Nadolig hwn a bod angen i chi siarad â rhywun. Eu manylion yw:

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl i Gymru C.A.L.L.  http://www.callhelpline.org.uk/ |Ffôn: 0800 132 737

Gwasanaeth 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos sy'n cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth yn rhad ac am ddim am iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru. Tecstiwch 'Help' i 81066.

Y Samariaid: 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos – (Rhadffôn): 116 123

E-bost: jo@samaritans.org (ymateb 24 awr)

Llinell Iaith Gymraeg Y Samariaid: rhadffôn 0808 1640123 ar agor 7pm-11pm bob dydd

Llinell Wybodaeth Mind Cymru: I gael gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, ble i gael cymorth, meddyginiaeth, triniaethau amgen ac eirioli. Ffoniwch 0300 123 3393, e-bostiwch info@mind.org.uk neu tecstiwch 86463.

Mae Papyrus yn darparu HopeLine ar gyfer pobl ifanc o dan 35 oed sy'n cael anhawster wrth feddwl am hunanladdiad, neu unrhyw un sy'n poeni bod unigolyn ifanc yn meddwl am hunanladdiad. Maent yn darparu man diogel lle gellir siarad am unrhyw beth sy'n digwydd mewn bywyd a allai gael effaith ar aros yn ddiogel. Ar agor: 10am-10pm yn ystod yr wythnos  2pm – 10pm (penwythnosau a gwyliau'r banc).  Rhadffôn : 0800 068 4141 Neges destun: 07786 209697 E-bost: pat@papyrus-uk.org Ewch i: www.papyrus-uk.org/hopelineuk

Mae Childline yn darparu man diogel lle gall plant a phobl ifanc hyd at 19 oed yn y DU fod yn nhw eu hunain a theimlo'n ddiogel i siarad am unrhyw beth. Mae cwnselwyr hyfforddedig wrth law i wrando, cynnig cymorth a chefnogaeth gydag unrhyw broblem neu bryder, boed yn fawr neu'n fach, 24 awr y dydd. 

Rhadffôn: 0800 1111. Sgwrsio un-i-un ac e-bost gyda chwnselydd (ar gael trwy www.childline.org neu Ap For Me)

Gall apiau fod yn ffordd wych o ddod o hyd i ffyrdd diogelach o ddelio â theimladau anodd neu feddwl am hunanladdiad.

Mae'r Pum Ffordd at Les yn gyfres o gamau ymarferol sydd â'r nod o wella ein hiechyd meddwl a'n lles. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: Y Pum Ffordd at Les - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)