Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeirio cyflym er mwyn rhoi diagnosis canser yn gynt

24.03.22

Mae clinigau newydd yng Ngogledd Cymru yn helpu i roi diagnosis cyflymach i gleifion â symptomau sy’n peri pryder, ac mae hyn yn rhan o waith ledled y wlad i leihau amseroedd aros ar gyfer canser.

Mae Clinigau Diagnosis Cyflym wedi cael eu sefydlu yn awr yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam, ac o Ebrill ymlaen bydd y clinigau yn cychwyn yn Ysbyty Gwynedd.

Mae'r clinigau hyn yn rhan o raglen genedlaethol sy’n helpu’r byrddau iechyd i roi opsiwn ychwanegol i feddygon teulu ar gyfer ymchwilio i symptomau amwys a allai gael eu hachosi gan ganser. Gall y Ganolfan Diagnosis Cyflym roi sicrwydd yn gyflym i bobl sydd heb ganser, helpu i wneud diagnosis o amryw o gyflyrau iechyd cronig eraill neu gyfeirio pobl yn eu blaenau i gael triniaeth canser yn gyflymach.

Dywedodd Dr Daniel Menzies, Ymgynghorydd Meddygaeth Anadlol yn Ysbyty Glan Clwyd: “Mae'r Clinigau Diagnosis Cyflym yn rhoi eglurder i'r claf a sicrwydd i'r meddyg teulu ac yn ein galluogi hefyd, gobeithio, i ganfod canserau yn gynt nag y byddem fel arfer.

"Mewn amgylchiadau arferol, mae cleifion sy'n dod at eu meddyg teulu gyda symptomau amhenodol yn cael nifer o brofion i ddarganfod beth sy'n eu hachosi. Nawr mae'r cleifion hyn yn cael eu cyfeirio i'r Clinig Diagnosis Cyflym mewn ychydig o dan wythnos. Mae gwerthusiad diagnostig yn cael ei gynnal, gan gynnwys yr holl ddelweddu CT, ac rydyn ni’n rhoi ateb iddynt o fewn yr amserlen honno.

"Mae'r clinigau'n rhoi sicrwydd a diagnosis yn gyflym i gleifion os oes pryderon am ganser. Gorau oll os gallwn wneud y diagnosis yn gynt a chael y driniaeth gywir i’r cleifion yn gyflymach. Ac, ac yn yr un modd, os ydyn nhw’n poeni beth allai fod yn achosi eu symptomau -  colli pwysau er enghraifft - rydyn ni’n gallu rhoi eglurhad iddyn nhw a’u sicrhau nad oes problem sylfaenol ddifrifol.

Mae Dr Elaine Hampton, Hwylusydd Meddyg Teulu ar gyfer Gwasanaethau Canser BIPBC sydd hefyd yn Feddyg Teulu yn gweithio ym Meddygfa Bronderw, Bangor, wedi bod yn rhan o’r tîm sy’n sefydlu’r clinigau yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd: “Mae’n gyffrous iawn i ni weld sut mae’r clinigau yn gweithio rŵan. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn aros i’w gychwyn yng Ngogledd Cymru ers cryn amser wedi i mi glywed gyntaf am gynllun tebyg yn cael ei gynnal drwy Cancer Research UK yn Lloegr gan feddwl dyma’r union beth sydd ei angen arnom ni yma.

“Mae’n gallu bod yn gyfnod pryderus dros ben i gleifion wrth aros am ddiagnosis pan mae ganddyn nhw symptomau amwys. Mae’r clinigau hyn yn golygu y gallwn roi ateb iddynt yn sydyn, ac maent yn cael eu cyfeirio at yr arbenigwr cywir yn gynt os oes angen archwilio ymhellach.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Gan fod un o bob dau o bobl yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod eu hoes, gwella canlyniadau i gleifion canser yw un o brif flaenoriaethau GIG Cymru.

"Mae'n wych gweld gwaith arloesol o'r fath yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys canolfannau diagnosis cyflym a rhaglenni eraill i gynyddu capasiti, cyflymu diagnosis a lleihau pryder i gleifion ar adeg yn eu bywydau sy’n gallu bod yn anodd.

"Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'n gwasanaeth iechyd ond rwy'n falch o weld gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu gwasanaethau canser er gwell.”