Mae arweinydd nyrsio gwych wedi ennill prif wobr er cof am ei diweddar gydweithiwr
Cafodd Jill Timmins ei henwi fel enillydd gwobr Jilly Wilcox-Jones mewn digwyddiad gala grand yn Venue Cymru i ddathlu Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2019.
Mae'r gwobrau, a noddir gan Centerprise International, yn dathlu llwyddiannau rhagorol staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.
Cafodd y wobr arbennig ei sefydlu er cof am Jilly Wilcox-Jones, cyn nyrs a ymrwymodd ei bywyd gwaith i gefnogi unigolion â phroblemau iechyd meddwl. Bu farw'r fam i dri o Nantyglyn ger Dinbych ym mis Ebrill 2016 wedi iddi gael lewcemia lymffoblastig llym.
Cydnabuwyd Jill, a oedd yn ffrind agos ac yn gydweithiwr i Jilly, am ei hymrwymiad i ddysgu gydol oes, ei harweinyddiaeth wych a'i natur benderfynol i roi cleifion wrth wraidd popeth mae'n ei wneud.
Dechreuodd ei gyrfa fel nyrs yng nghanol yr 1980au, cyn gweithio mewn ystod o rolau clinigol a rheolaethol.
Torrodd Jill dir newydd trwy ddod y Nyrs Ymgynghorol gyntaf ar gyfer Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru, a chwaraeodd ran flaenllaw wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno nifer o ddulliau newydd, yn seiliedig ar dystiolaeth, i gefnogi adferiad pobl.
Yn ddiweddar, mae wedi goruchwylio nifer o welliannau o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys sefydlu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol cyntaf Gogledd Cymru, sy'n cefnogi mamau newydd a mamau beichiog sy'n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.
Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau yn BIPBC a enwebodd Jill am y wobr:
"Mae Jill yn nyrs ac uwch arweinydd gwych sydd â’r gallu amhrisiadwy i wrando. Mae ei natur gefnogol a thosturiol yn golygu mai ati hi y mae staff yn troi.
"Y sbardun drwy gydol gyrfa Jill yw rhoi cleifion wrth wraidd popeth a wnawn, ac mae'n aml wedi bod ar flaen y gad wrth hyrwyddo ffyrdd newydd o ddarparu gofal sy'n ddiweddarach yn dod yn arfer prif lif.
"Bydd Jill yn ymddeol y flwyddyn nesaf, ac fe fyddwn ni gyd yn colli ei hangerdd, ei harweinyddiaeth a'i charedigrwydd."
Dywedodd Jill: "Mae'n fraint cael fy nghydnabod gyda'r wobr hon ac mae hyd yn oed yn fwy arbennig oherwydd ei fod wedi cael ei roi er cof am chydweithwraig annwyl."
Dywedodd Nick Napier-Andrews, pennaeth datrysiadau cleientiaid ar gyfer noddwyr y wobr, ID Medical: Mae Jill yn cynrychioli'r gorau o'n gwasanaeth iechyd cenedlaethol ac rydym yn falch iawn i gefnogi'r wobr arbennig hon.
"Fe wnaeth ei hymdrechion i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru argraff fawr arnom, ac rydym yn dymuno ei llongyfarch ar ei chyraeddiadau."