Neidio i'r prif gynnwy

Artist o Fôn yn bywiogi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd

Mae delweddau bywiog o dirweddau cyfarwydd Gogledd Cymru bellach wedi bywiogi waliau Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, diolch i artist lleol.

Mae'r artist tecstilau Jayne Huskisson wedi rhoi ei delweddau'n garedig i'w defnyddio fel rhan o brosiect celf er mwyn helpu i greu amgylchedd mwy croesawus i gleifion ac ymwelwyr.

Mae paentiadau sidan Jayne yn crisialu tirwedd hardd Ynys Môn a Gogledd Cymru mewn ffordd liwgar a chyfoes.

Dywedodd: “Roeddwn i am roi rhywbeth yn ôl i'r ysbyty. Ymwelais â llawer o adrannau dros y pymtheg mlynedd diwethaf gyda'm tad a bu'r gofal a gafodd yn rhagorol. Rydw i'n gobeithio y bydd fy ngwaith celf yn dod â rhywfaint o gysur i gleifion a'u teuluoedd. Pleser o'r mwyaf oedd gweld fy ngwaith yn cael ei atgynhyrchu ar raddfa mor fawr ac rydw i wrth fy modd gyda'r gwaith gorffenedig."

Rhoddwyd cyllid ar gyfer y prosiect celf hwn drwy rodd garedig o £12,756.00 gan yr Awyrlu yn y Fali (RAF). Mae'r rhodd, a roddwyd i Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru, hefyd wedi caniatáu prynu cadeiriau lledorwedd i'n cleifion sy'n byw gyda dementia. 

Dywedodd Andrew Parry, Nyrs â Chyfrifoldeb: “Hoffem ni ddiolch i Jayne am ganiatáu i ni ddefnyddio ei delweddau er mwyn ein helpu i wneud ein hardaloedd aros ac ystafelloedd clinigol ein hadran newydd yn fwy deniadol."

Hoffai'r Adran Achosion Brys ddefnyddio delweddau digidol o waith artistiaid lleol a ysbrydolwyd gan leoliadau ar draws y rhanbarth.  Os ydych yn artist lleol ac yr hoffech gyfrannu delweddau i'w hystyried, neu os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch y prosiect celf yn yr Adran Achosion Brys, gallwch gysylltu am fwy o wybodaeth drwy anfon e-bost at kathryn.cummings2@wales.nhs.uk