Neidio i'r prif gynnwy

Aros yn iach y gaeaf hwn

Bydd pobl sy'n byw yn Wrecsam a Sir y Fflint yn gallu cael llawer o gyngor wythnos nesaf i'w helpu i aros yn iach y gaeaf hwn.

Bydd staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymweld â safleoedd ar draws y ddwy sir i godi ymwybyddiaeth am hydradiad, atal codymau, gofal croen, Dewis Fferyllfa, cefnogi gofalwyr a'r ffliw.

O ddydd Llun i ddydd Iau (14-17 Hydref) bydd staff yn Ysbyty Cymuned y Waun, Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, Canolfan Feddygol Pen-y-Maes ym Mrynhyfryd a Chanolfan Feddygol Sant Mark yng Nghei Connah rhwng 10am a 3pm i gynnig cyngor a chefnogaeth.

Yna, ddydd Gwener 18 Hydref, byddant yn Ysbyty Maelor Wrecsam rhwng 10am a 3pm. Bydd Rob Walsh, Maer Wrecsam a Chôr Ysgol yr Hafod yn ymuno â staff ar y diwrnod wrth iddynt ddod â gweithgareddau'r wythnos i ben.

Dywedodd Jane Roberts, Nyrs Arweiniol Gofal Cychwynnol y Dwyrain: "Mae'r gaeaf yn amser pwysig iawn i bobl ofalu amdanynt eu hunain ac rydym eisiau helpu pobl i gael y cyngor cywir i gefnogi eu hunain ac eraill.

"Byddwn yn cynnig cyngor ar ystod o bynciau ar draws y pum safle yn ystod yr wythnos, felly dewch draw i'n gweld ac i gael help i'ch paratoi chi a'ch teulu ar gyfer y gaeaf."

Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael os ydych angen gofal a chefnogaeth drwy wefan Dewis Doeth Cymru ar www.choosewellwales.org.uk

Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i amddiffyn ei hunain, eu teulu a'u ffrindiau rhag y ffliw drwy gael eu brechu. Mwy o wybodaeth ar ein gwefan yma.