14.10.2022
Mae nyrs gymunedol a helpodd i gynnal gwasanaethau trwy gydol y cyfnod Covid wedi ennill gwobr fawreddog.
Cafodd Kelly Clewett, rheolwr tîm nyrsio ardal De Sir Ddinbych, ei henwi fel Hyrwyddwr Menywod mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Womenspire Chwarae Teg mewn seremoni yng Nghaerdydd, ar 30 Medi.
Derbyniodd ei gwobr gan Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y tu allan i Ysbyty Dinbych yr wythnos hon, gan nad oedd yn gallu mynd i'r seremoni gala ar y noson.
Dywedodd fod ennill y wobr yn gydnabyddiaeth i bawb sy'n nyrsio yn y gymuned ac anogodd mwy o hyfforddeion i ystyried y ddisgyblaeth fel gyrfa.
Ar ôl derbyn ei thlws, datgelodd Kelly, 46 oed, sut y bu i'w harosiadau hir ei hun yn yr ysbyty'n brwydo Clefyd Crohn, ei hysbrydoli i ddechrau yn y proffesiwn.
Dywedodd: "Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n meddwl yr hoffwn i fod yn nyrs ond nid oeddwn byth yn meddwl y byddwn i'n gallu delio â gwaed neu unrhyw bethau annifyr fel hynny.
"Ond roeddwn i yn yr ysbyty am ryw ddeufis ar y tro, ychydig o weithiau, a gwelais lawer o bethau annifyr ac nid oedd yn poeni dim arnaf.
"Roeddwn i'n arfer ceisio helpu'r bobl hŷn yr oeddwn i yn y ward gyda nhw, oherwydd roeddwn i ond yn 22 oed, ac roeddwn i wrth fy modd – yn wirioneddol wrth fy modd."
Er ei bod wedi cwblhau gradd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Greenwich, cafodd Kelly o Brestatyn, yr hyn a alwodd yn "dröedigaeth Damasîn" a phenderfynodd ddilyn gyrfa ym maes nyrsio yn lle.
"Cefais fy ysbrydoli gan y nyrsys a'r gwaith maen nhw'n ei wneud," meddai. "Mae'n wych, roeddwn i wrth fy modd."
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae Kelly yn ysbrydoliaeth ac yn ddelfryd ymddwyn. Mae ei gwaith yn hybu nyrsio cymunedol yn ysbrydoliaeth ac roeddwn i'n teimlo ei bod yn anrhydedd fawr gallu cyfarfod â rhai aelodau o'i thîm ac i gyflwyno'r wobr gwbl haeddiannol i Kelly."
Cymhwysodd Kelly pan oedd yn 29 oed a dechreuodd ei gyrfa yn Ysbyty Glan Clwyd ond, oherwydd ei phrofiad wrth hyfforddi, nyrsio cymunedol oedd yn mynd â'i phryd hi ac ymunodd â thîm ardal Prestatyn yn 2005.
Mae hi wedi datblygu i arwain staff yn nhîm adnoddau cymunedol de Sir Ddinbych, sy'n gweithio yn Ysbyty Dinbych.
Er eu bod yn dal i fod yn brysur iawn, mae natur nyrsio cymunedol yn caniatáu i staff feithrin perthynas gyda'u cleifion mewn ardal ddaearyddol benodol.
Esboniodd Kelly: "Mae nyrsio ardal yn caniatáu i chi siarad â'r cleifion ychydig bach mwy. Mae llawer yn mynd a dod ond mae gennym ni lawer o bobl sydd angen gofal dros gyfnod hirfaith.
“Mae eu teuluoedd yn dod i'n hadnabod ni, felly mae'n hynny'n rhan wirioneddol hyfryd o'r gwaith. Natur gyffredinol yr hyn rydym yn ei wneud sy'n apelio hefyd - rydym ni'n arbenigo mewn popeth i bob pwrpas."
Weithiau, gall fod amgyffrediad bod nyrsio cymunedol ychydig yn blwyfol a'i fod yn lleihau sgiliau nyrsio ond mae hynny'n hen syniad y mae Kelly yn awyddus i'w chwalu.
Dywedodd: "Nid yw ein ward wedi'i lleoli yn yr ysbyty, mae ym mhob man yn y gymuned ac mae llawer o waith ynghlwm wrth hynny. Bydd myfyrwyr nyrsio yn dod yma ac yn gwneud popeth.
"Bydd cleifion sydd angen gofal clwyf, gofal clwyf ysgafn neu efallai y bydd wlserau cronig. Byddant yn delio â chleifion gofal lliniarol, efallai y byddant yn gweld rhywun sydd ar ddiwedd eu hoes, yn ystod eu horiau diwethaf i roi meddyginiaeth ac i ddelio â'r claf.
"Byddwn yn mynd i weld pobl ar gyfer problemau ymataliaeth, i reoli cyflyrau cronig ac i sicrhau na fydd angen i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty.
"Dyna yw ein prif nod a'r rheswm pam y byddwn yn codi o'r gwely bob bore, gan sicrhau na fydd cleifion yn gorfod derbyn gofal eilaidd.
"Byddwn yn argymhell y dylai unrhyw un sy'n mynd i faes nyrsio ystyried nyrsio cymunedol. Mae'n hollbwysig i sicrhau na fydd angen i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, fel bod modd iddynt aros yn eu cartrefi ac i gadw rhywfaint o annibyniaeth. Dyna sy'n ei gwneud yn yrfa mor wobrwyol ac amrywiol."
Mae hwn yn waith a barhaodd ar gyfer pobl sy'n agored i niwed a'r sawl sy'n gaeth i'w cartrefi trwy gydol y pandemig - ac mae'n un o'r prif resymau pam y gwnaeth Kelly ennill y wobr.
"Rydw i'n un o lawer," meddai Kelly. "Mae pethau fel hyn yn tynnu sylw at yr hyn rydym yn ei wneud ac mae rhywun yn meddwl 'nid yw hon yn swydd normal, nac ydy'?
"Mae'r wobr i bob un ohonom ac rydw i'n teimlo fy mod wedi cael fy enwebu gan fod Chwarae Teg yn gwybod amdanaf i ond nid oeddent yn gwybod am y Nyrsys Ardal eraill sy'n gweithio yn y maes. Felly, gallai unrhyw rai ohonom ni fod wedi ennill y wobr."
Dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg: "Mae lle Kelly fel enillydd y wobr Menywod mewn Iechyd a Gofal yn adlewyrchu ei hangerdd a'i hymroddiad i'w gwaith, ei chydweithwyr, a'r bobl y mae nyrsys ardal yn rhoi cymorth iddynt.
"Roedd yn amlwg i feirniaid Womenspire ei bod yn eiriolwr gwirioneddol dros y proffesiwn. Mae Kelly yn ddelfryd ymddwyn ac roedd ei hymrwymiad i godi proffil nyrsio ardal, sy'n hollbwysig i sicrhau iechyd da a lles mewn cymunedau, yn hollol amlwg."
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)