Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrwyo pencampwr cleifion Ysbyty Yr Wyddgrug am fynd y filltir ychwanegol

07/10/2022

Roedd cleifion a staff wrth eu bodd o glywed bod eu cydlynydd gweithgareddau a lles wedi ennill gwobr Pencampwr Cleifion a Gofalwyr y Flwyddyn.

Yn ystod y pandemig, gwirfoddolodd Diane Sweeney, cydlynydd gweithgareddau a lles yn Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, i fod yn bencampwr profiad cleifion ar gyfer y tîm Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS), ac mae eisoes wedi ennill tystysgrifau Efydd, Arian ac Aur am ei holl waith caled.

Prif rôl Diane yw hwyluso gweithgareddau i gleifion ond mae hi’n mynd gam ymhellach ac yn darganfod diddordebau a hobïau cleifion er mwyn eu cynnwys yn y gweithgareddau hynny. Mae hi hefyd yn trefnu galwadau Facetime gyda theuluoedd a chartrefi nyrsio er mwyn i gleifion weld y cartrefi cyn iddyn nhw symud yno.

Ymysg y llu o weithgareddau a drefnwyd gan Diane yn y blynyddoedd diwethaf mae Gemau Olympaidd ysbyty, parti Jiwbilî, drama awyr agored gan grŵp ieuenctid Theatr Clwyd, amryw o alwadau Zoom gyda phlant o ysgol gynradd leol, a chynnau golau coeden gof Nadolig.

Dywedodd Diane: “Fy nod bob dydd yw darparu gweithgareddau ond rydw i hefyd eisiau rhoi amser i gleifion er mwyn tawelu eu meddwl a sicrhau eu bod i gyd yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Rwy'n gobeithio fy mod yn ysgogi ein cleifion ac yn rhoi cyfle iddyn nhw fod yn gymdeithasol er mwyn bodloni eu hanghenion emosiynol a chorfforol.

“Mae bod yn Bencampwr Cleifion wedi fy helpu i bontio’r bwlch rhwng cleifion, teuluoedd a staff gan roi llais i gleifion os oes unrhyw bryderon neu broblemau’n codi.

“Rydw i wedi mwynhau gweithio tuag at wobrau efydd, arian ac aur y pencampwyr cleifion gan ei fod wedi fy ysbrydoli i feddwl am ffyrdd newydd o weithio gyda’n cleifion. Rwyf wedi cysylltu ag ysgolion, meithrinfeydd, a'r eglwys leol i integreiddio ein cleifion i'r byd y tu hwnt i'r ysbyty unwaith eto.”

Cafodd Diane syndod yr wythnos diwethaf pan gyflwynodd y tîm PALS anrheg arbennig a thystysgrif Pencampwr Cleifion a Gofalwr y Flwyddyn iddi am ei holl ymdrechion. Diolchwyd i Diane nid yn unig am ei hymroddiad i'r cleifion, ond am godi ysbryd y staff bob amser hefyd.

Ychwanegodd Diane: “Er fy mod i'n gweithio ar fy mhen fy hun, rwy'n rhan o 'Dîm yr Wyddgrug', un o'r nifer sy'n helpu i ddod â phopeth ynghyd. Fedrwn i ddim gwneud fy ngwaith heb gymorth a chefnogaeth fy nghydweithwyr. Mi hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd yn ogystal â'r tîm PALS am syrpreis mor hyfryd. Mae'n gymaint o anrhydedd."

Dywedodd Rachel Wright, Arweinydd Profiad Cleifion a Gofalwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae Diane wedi dangos gwir ymrwymiad ac ymroddiad i’w rôl fel Pencampwr Cleifion a Gofalwyr ac wedi helpu i wella profiadau cleifion a’u gofalwyr di-dâl a’u perthnasau.

“Mae hi wedi newid bywydau’r cleifion y mae hi wedi’u cefnogi yn enwedig yn ystod cyfnod cyfyngiadau ymweld Covid-19. Mae Diane wedi darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan helpu i wireddu dymuniadau a breuddwydion cleifion.

“Mae Diane wedi rhoi sicrwydd i deuluoedd a gofalwyr bod eu hanwyliaid yn cael eu cefnogi a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni. Mae’r Tîm Profiad Cleifion a Gofalwyr yn hynod ddiolchgar am holl waith caled Diane i sicrhau bod cleifion yn cael profiad cadarnhaol tra byddant yn yr ysbyty.”