Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwr y galon yn cael Gwobr Cyflawniad Oes

Mae arbenigwr delweddu cardiaidd sy'n gweithio yn y gymuned wedi cael Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Ecocardiograffeg Prydain.

Bu i Liana Shirley, sydd wedi bod yn Ffisiolegydd Clinigol ers 1994, gael gwobr fawreddog am helpu i chwyldroi gwasanaethau delweddu y galon yn y gymuned.

Bu i Liana gael ei henwebu gan ei chydweithiwr, Viki Jenkins, Uwch Nyrs Ymarferydd Methiant y Galon, sydd wedi ei chanmol am ei gwaith o ddatblygu clinig eco-diagnostig methiant y galon cyntaf y Deyrnas Unedig yn y gymuned a sefydlwyd gan Dr Graham Thomas, Meddyg Teulu sydd â diddordeb arbennig mewn Cardioleg.

Dywedodd: "Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i gleifion fynychu eu hapwyntiadau mewn ysbytai cymuned lleol, a chael archwiliad clinigol llawn sy'n cynnwys ECG ac Eco, gyda phob un ohonynt yn cael eu cynnal yr un diwrnod.

"Mae Liana yna yn rhoi diagnosis i'r claf, a gyda chefnogaeth o bell gan Dr Graham Thomas, Meddyg Teulu sydd â diddordeb arbennig mewn Cardioleg, yn addasu cynllun triniaeth parhaus, neu'n cyhyrchu un.

"Yna mae'r claf yn cael ei gyfeirio'n ôl at ei Feddyg Teulu ei hun gyda'r cynllun newydd, neu at wasanaethau arbenigol eraill fel bo'n briodol heb orfod mynd i ysbyty llym byth.

"Mae hyn yn arbed misoedd o amser aros a sawl clinig cleifion allanol ar wahân rhwng hyn."

Yn 2018, bu i Liana gael gwobr genedlaethol am ei gwaith ar y gwasanaeth hwn, sy'n gweithredu mewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru yn cynnwys Dinbych, Porthmadog a Chorwen, gan Sefydliad Prydeinig y Galon. 

Yn ogystal â datblygu'r gwasanaeth hwn, mae Liana wedi gweithio gyda'r adran adfywio hefyd yn BIPBC i gyflwyno cwrs Cyngor Adfywio'r Deyrnas Unedig: Eco sy'n cael ei ganolbwyntio mewn Cynnal Bywyd Brys (FEEL) yng Ngogledd Cymru.

Mae hefyd wedi mynd â'i hangerdd tuag at hyfforddiant i genedl Lesotho yn Affrica fel rhan o gyswllt iechyd 'Cymru o Blaid Affrica' fel gwirfoddolwr.  Yno mae wedi hyfforddi cydweithwyr meddygol mewn hanfodion sylfaenol ecocardiograffeg, a gwella'r gofal y maent yn ei darparu i'w poblogaeth.

"Yn ystod fy 26 mlynedd fel gweithiwr proffesiynol yn y GIG, anaml, os erioed rwyf wedi cyfarfod cydweithiwr sy'n dangos y fath angerdd tuag at ei waith.

"Mae gan Liana y penderfynoldeb yn dal i fod i barhau i wthio'r ffiiau a mynd i'r afael â rhwystrau er mwyn parhau i lywio gofal cleifion ymlaen.

"Mae'n llwyr haeddiannol o'r gydnabyddiaeth hon, ac rwyf yn falch iawn i weithio ochr yn ochr â hi," ychwanegodd Viki.

Dywedodd Liana:  "Rwy'n teimlo'n lwcus iawn i fod mewn proffesiwn, yr wyf nid yn unig yn ei mwynhau, ond hefyd yn rhan o wasanaeth sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i ofal cleifion a'u rheolaeth, ac rwy'n falch iawn bod yn rhan o dîm cymuned mor hyfryd. 

"Roedd y wobr hon gan fy nghorff proffesiynol yn gwbl annisgwyl, ond mae'n wych cael eich gwerthfawrogi."