Neidio i'r prif gynnwy

App yn darparu diweddariadau hanfodol i rieni newydd yn ystod COVID-19

Mae App am ddim yn caniatáu i rieni dderbyn diweddariadau a lluniau rheolaidd o'u plentyn ar Unedau Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yn ystod yr achosion o COVID-19.

Oherwydd y pandemig presennol nid yw'n bosibl i rieni newydd fod gyda'u babi drwy'r amser tra'u bod yn derbyn gofal ar uned y newydd-anedig yn yr ysbyty.

Mae staff o unedau’r newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd yn defnyddio Dyddiadur Babi BadgerNet sy'n caniatáu i rieni a theuluoedd gael mynediad amser go iawn a diogel at luniau o'u babi tra'i fod yng ngofal ysbyty a hynny dros y rhyngrwyd drwy eu cyfrifiadur personol, dyfais tabled, neu ffôn symudol.

Bethan Roberts o Langefni, a roddodd enedigaeth i Beca Lois Hughes ddydd Llun 27 Ebrill yw'r fam gyntaf i dreialu'r dechnoleg newydd yn Ysbyty Gwynedd. 

Dywedodd: "Fe ddes i mewn i’r ysbyty ddeuddydd cyn rhoi genedigaeth ac roedd yn rhyfedd iawn gan fod fy mhartner, Ian, wedi gorfod fy ngadael wrth y drws gan nad oedd yn cael dod i mewn gyda mi.

"Dau ddiwrnod yn ddiweddarach ac oherwydd cymhlethdodau gyda’r enedigaeth aethpwyd â fi i’r theatr am enedigaeth Cesaraidd. Roedd Ian gyda mi yn ystod yr enedigaeth ond dim ond am hanner awr y caniatawyd iddo aros oherwydd y cyfyngiadau cyfredol oherwydd COVID-19.

"Doedd Ian heb gael cyfle i afael yn ein babi newydd na threulio llawer o amser gyda hi. 

“Roeddwn yn ffodus gan imi aros yn yr ysbyty gyda hi nes i mi gael fy rhyddhau ond ni allaf ddychmygu pa mor anodd yw hi i rieni newydd adael eu plentyn yn yr ysbyty a pheidio â bod yno.

"Pan ofynnodd y staff ar y ward i mi dreialu'r Dyddiadur Babi newydd, sylweddolais pa mor hanfodol y gallai'r App fod i rieni yn ystod y cyfnod hwn. 

"Roedd yn ofnadwy o hawdd ei ddefnyddio ac mae'r staff yn wych am ddarparu cyngor a chymorth ac felly byddai hyn yn fuddiol iawn i rieni i gael diweddariad ar gynnydd eu babi a hefyd er mwyn derbyn lluniau bob dydd."

Dywedodd Rheolwr  Uned y Newydd-anedig, Caren Radcliffe, bod y Dyddiadur Babi yn fuddiol iawn i rieni a staff yn ystod y cyfnod digynsail hwn. 

Dywedodd: “Mae cyfathrebu rheolaidd gan staff y newydd-anedig yn bwysig i leddfu straen rhieni ac i sicrhau bod rhieni’n deall cyflwr a chynnydd eu babi.

"Rydym hefyd eisiau sicrhau bod rhieni'n teimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys yng ngofal eu babi ac mae'r Dyddiadur Babi'n ein helpu gyda hynny. 

"Oherwydd yr heriau’n ymwneud ag ymweld yn ystod COVID-19, mae'r App yn ein caniatau i ni gyfathrebu gyda rhieni mewn ffordd wahanol yn rheolaidd.  Mae hefyd yn hanfodol bwysig eu bod yn derbyn diweddariadau gweledol ar ddatblygiad eu babi sef beth mae'r Dyddiadur Babi'n caniatáu i ni ei wneud mewn ffordd ddiogel.

"Mae'r App ar waith yn Uned y Newydd-anedig Ysbyty Glan Clwyd yn barod ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu ei gynnig yn Ysbyty Gwynedd i rieni newydd."

Mae Bethan wedi canmol y staff ar uned y newydd-anedig am eu gofal yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty ac eisiau sicrhau mamau'r dyfodol sydd efallai'n teimlo'n bryderus yn ystod y cyfnod hwn. 

"O'r diwrnod y cyrhaeddais yr ysbyty cefais ofal arbennig, doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i'w ddisgwyl ac yn teimlo'n eithaf pryderus oherwydd fy mod yn gwybod y byddwn ar fy mhen fy hun. 

"Roedd llawer o famau eraill ar y ward ac roedd yn braf oherwydd ein bod ni gyd yn sgwrsio ac roedd y staff mor hyfryd ac yn darparu llawer o gymorth i ni gyd." 

Ychwanegodd, "Hoffwn ddiolch i bawb yn Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Gwynedd am y gofal arbennig a ddarparwyd i mi a fy mabi newydd."