Neidio i'r prif gynnwy

Apêl 'helpu ni helpu chi' Meddygon Teulu Prestatyn, wrth i wasanaethau wynebu galw digynsail

Mae cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi dychwelyd i’w wreiddiau i arwain un o’r meddygfeydd MT mwyaf yng Ngogledd Cymru.

Dychwelodd Dr Judah Eastwell yn ddiweddar i Brestatyn ar ôl hyfforddi mewn meddygaeth a gweithio fel MT yn Llundain a Manceinion.  

Mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Prestatyn, a gafodd ei fagu yn Nyserth, wedi ymuno â Phrestatyn Iach fel Meddyg Teulu Arweiniol Clinigol newydd.

Mae’r practis sydd o dan reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw un o’r rhai mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn gwasanaethu 19,900 o gleifion.

Mae Dr Eastwell wedi siarad am ei lawenydd yn dychwelyd i’w wreiddiau yn Sir Ddinbych, tra’n gosod allan rhai o’r heriau sy’n wynebu’r practis, a’r ffyrdd y gall cleifion gael mynediad at y gofal mwyaf priodol.

“Ar ôl gweithio yn Llundain a Manceinion, fy mwriad oedd dychwelyd adref am nifer o flynyddoedd,” meddai.

“Rwy’n falch o fod yn ôl ym Mhrestatyn ac rwy’n edrych ymlaen at ddod yn rhan o’r gymuned yma.

“Wrth i ni ddod allan o’r pandemig COVID-19, mae gwasanaethau gofal cychwynnol yn wynebu ystod o heriau.  Mae’r rhain yn cynnwys problemau hir sefydlog o recriwtio staff, cynnydd mawr yn y galw am apwyntiadau MT, yn ogystal â’r her o ddarparu gofal parhaus i gleifion sy’n aros am weithdrefnau ysbyty a oedd wedi cael eu gohirio oherwydd y pandemig.

“Mae yna hefyd heriau sy’n ymwneud yn benodol â COVID-19, megis gorfod cyfyngu ar fynediad wyneb yn wyneb oherwydd pellhau cymdeithasol.  Rydym hefyd yn defnyddio brysbennu dros y ffôn a chefnogaeth ar lein, sydd yn anodd i rai pobl gael mynediad atynt.

“Mae yna gleifion sydd wedi oedi dod atom ni oherwydd eu bod yn meddwl nad ydyn ni ar agor.  Mae rhai hefyd wedi osgoi ffonio oherwydd bod y ciwiau ar y ffôn mor hir.  Dyma’r pethau yr ydym yn ceisio mynd i’r afael â nhw.”

Mae Dr Eastwell yn annog holl gleifion Prestatyn Iach i ddewis y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

Meddai: “Mae’r capasiti yn y feddygfa yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn.  Er mwyn i ni allu cynnig y capasiti i’r rhai sydd ei angen fwyaf, rydym yn gofyn i bobl gyda mân symptomau neu symptomau sydd newydd ddechrau i ystyried cael cyngor ar lein trwy wefan GIG 111 Cymru <https://111.wales.nhs.uk/Default.aspx?locale=cy>, neu aros i weld a yw eu symptomau yn setlo eu hunain.   

“Gallent hefyd ymweld â’u fferyllfa leol i dderbyn cyngor ar y driniaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin, a’u symptomau.

“Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un all ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar i gysylltu â ni ar lein, drwy’r system E-Consult ar ein gwefan, ac yna aros i ni gysylltu’n ôl â nhw.  Bydd hynny’n rhyddhau’r llinellau ffôn ar gyfer y bobl hynny na all ddefnyddio cyfrifiadur.  

“Rydym yn gweithio ar symleiddio’r broses E-Consult i’w wneud yn fwy effeithlon, fel nad yw pobl yn gorfod aros yn rhy hir cyn i rywun gysylltu â nhw.

“Trwy ddilyn y camau hyn, gallwch helpu i sicrhau fod gymaint o bobl â phosibl yn derbyn gofal amserol a phriodol.”

Am fwy o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol, ewch i wefan BIPBC.