Neidio i'r prif gynnwy

Anogir rhieni i sicrhau bod plant wedi cael eu himiwneiddiadau diweddaraf cyn dechrau'r ysgol

MAE ARBENIGWYR IMIWNEIDDIO o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn i rieni sicrhau bod eu plant wedi cael eu brechiadau diweddaraf cyn iddynt ddechrau'r ysgol ym mis Medi.

Mae plant yn derbyn brechiadau yn ystod eu misoedd cynnar i helpu i'w hamddiffyn rhag afiechydon y gellir eu hatal gan gynnwys polio, difftheria, y pas, y frech goch a chlwy'r pennau.

Yn ddiweddarach mae angen pigiad cyfnerthu pedwar-yn-un ac ail bigiad MMR - a ddarperir fel arfer pan fydd y plentyn tua thair blwydd oed a phedwar mis - i gael eu himiwneiddio'n llawn.

Anogodd cydlynydd imiwneiddio Betsi Cadwaladr, Leigh Pusey, rieni i sicrhau bod plant sy'n paratoi ar gyfer eu diwrnod cyntaf yn y dosbarth wedi derbyn cyfnerthwyr cyn-ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag salwch.

Dywedodd Leigh: "Pan fydd yn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi, bydd eich plentyn yn cymysgu â mwy o blant nag o'r blaen - yn aml mewn dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn sy'n cynnwys dwsinau o aelwydydd o bob rhan o'r gymuned.

"Fel y gŵyr pob rhiant, mae plant bach yn chwarae’n agos gyda’i gilydd ac yn rhannu teganau, felly gall salwch ledaenu’n gyflym.

"Diolch i raglenni brechu, mae cyflyrau fel y frech goch a chlwy'r pennau yn brin iawn ond gallant fod yn ddifrifol o hyd.  Mae unrhyw gynnydd mewn cyswllt wyneb yn wyneb - fel dechrau'r ysgol - yn creu mwy o botensial i'r afiechydon hyn gylchredeg.

"Mae ein timau'n wyliadwrus, ac mae'r cyfraddau derbyn imiwneiddiadau yng Ngogledd Cymru yn uchel. Ond, i fod mor ddiogel â phosibl, mae angen i ni barhau i gynnal y lefelau uchaf posib imiwneiddio llawn.

"Gwiriwch fod eich plentyn wedi cael ei bigiad diweddaraf. Os nad yw, nid yw'n rhy hwyr i wneud hynny - trefnwch apwyntiad i dderbyn y pigiad cyfnerthu pedwar-mewn-un cyn-ysgol ac ail ddos o'r brechlyn MMR gan eich ymwelydd iechyd cyn gynted â phosib."