Neidio i'r prif gynnwy

Annog preswylwyr Gogledd Cymru i gael eu brechiad COVID-19, fel mae'r system trefnu apwyntiadau ar lein newydd yn cael ei lansio

Mae dos cyntaf o’r brechiad COVID-19 nawr wedi cael ei gynnig i bob oedolyn cymwys yng Ngogledd Cymru, ac mae’r rhai sydd eto i gael eu brechiad yn cael eu hannog i drefnu apwyntiad ar lein.

O’r 7fed o Fehefin, mae 486,924 o oedolion (83 y cant) wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn, gyda miloedd mwy wedi trefnu apwyntiad dros yr wythnosau nesaf.   Mae’r 87,500 o bobl sy’n weddill yn cael eu hannog i ddod ymlaen, gan fod lledaeniad yr amrywiolyn Delta yn parhau i fygwth dychweliad i normalrwydd.

Mae ffurflen drefnu apwyntiadau newydd ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael ei chyflwyno i’w gwneud hi’n haws i bobl drefnu dos cyntaf ar ddyddiad ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw.

Dylai’r rhai sydd ddim yn gallu trefnu ar lein, ffonio Canolfan Gyswllt Brechiad COVID-19 pwrpasol y Bwrdd Iechyd ar 03000 840004.

Meddai Dr Jim McGuigan, MT yn Sir y Fflint, a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol BIPBC:

 “Rydym yn annog y rhai sydd ddim wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 eto, i drefnu apwyntiad ar ein gwefan cyn gynted â phosib.  

“Mae’r brechiad yn rhoi’r amddiffyniad gorau rhag bod yn ddifrifol wael gyda COVID-19, ac yn cynnig y ffordd orau i ni ddod yn ôl i normalrwydd, gan osgoi trydydd ton a chyfnod clo posibl arall.

“Mae tystiolaeth yn dangos fod y brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol iawn yn erbyn y straen o’r amrywiolyn Delta o COVID-19 ar ôl dau ddos, felly mae’n bwysig fod pobl yn parhau i fynychu eu hapwyntiadau am ail ddos pan ddaw'r gwahoddiad.

“Fel mae mesurau clo yn parhau i gael eu llacio, mae’n bosibl bydd angen prawf o frechiad i’ch galluogi i fwynhau ystod o weithgareddau cymdeithasol, megis gwyliau dramor, neu fynychu cyngherddau, gwyliau neu ddigwyddiadau chwaraeon.

“Tydi hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechiad, ac rydym yn benderfynol o beidio â gadael unrhyw un ar ôl.  Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi gallu trefnu eich apwyntiad eto, neu eich bod wedi gwrthod y brechlyn pan gafodd ei gynnig i chi’r tro cyntaf, a’ch bod wedi newid eich meddwl ers hynny.

“Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch derbyn y brechlyn, trefnwch apwyntiad, fel y gallwn gymryd yr amser i drafod unrhyw bryderon sydd gennych, cyn i chi benderfynu mynd ymlaen neu beidio.”

Ychwanegodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Rydym wedi cymryd sawl cam gweithredu i annog pobl i gael eu brechiad ac rydym wedi derbyn ymateb anhygoel i’r clinigau galw heibio sydd wedi’u cynnal dros yr wythnosau diwethaf.  Er gwaetha’r llwyddiant hwn, mae’n bosibl bod nifer fechan o bobl wedi cael eu methu am wahanol resymau. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cynyddu ein hymdrechion i sicrhau na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.  Bydd hyn yn cynnwys hysbysebu ar y radio, ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, gwybodaeth yn y wasg leol, ac ymgysylltu gyda grwpiau anodd eu cyrraedd yn ein cymunedau.”