Neidio i'r prif gynnwy

Anesthetydd o Ysbyty Gwynedd yn cael ei benodi i rôl newydd o fri i helpu i hyfforddi'r gweithlu gofal iechyd ar gyfer y dyfodol

Mae Meddyg o Ysbyty Gwynedd wedi cael ei benodi ar gyfer rôl newydd o fri gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), i oruchwylio darparu hyfforddiant efelychiad ymysg gweithwyr gofal iechyd.

Ochr yn ochr â’i rôl glinigol, bydd Dr Suman Mitra yn ymgymryd â swydd newydd fel Deon Cysylltiol Sgiliau Clinigol ac Efelychiad i sefydlu rhwydwaith cyfadran ar draws Cymru, a helpu i siapio arfer gorau mewn darparu addysg a hyfforddiant ymysg staff y GIG.

Mae efelychiad yn ffordd o ddarparu addysg lle bydd profiad neu ddigwyddiad bywyd go iawn yn cael ei ail-greu gyda’r nod o ddarparu amgylchedd dysgu diogel, ac felly’n gwella diogelwch mewn gofal cleifion.

Dywedodd Dr Mitra: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r rôl ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r athrawon a’r dysgwyr ym mhob arbenigedd yng Nghymru i ymgorffori efelychiad mewn addysg gyda’r pwyslais ar wella gofal cleifion.

“Bydd y rôl hon yn gyfle gwych i gydweithio gydag arweinwyr efelychu a sgiliau yn y Bwrdd Iechyd i hyrwyddo datblygiad cyfadran a sefydlu rhwydwaith ar draws Cymru i rannu adnoddau ac arfer da.”

Mae Dr Karen Mottart, Cyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Gwynedd wedi llongyfarch Dr Mitra ar ei benodiad.

Dywedodd: “Rydym i gyd yn falch iawn o glywed bod Dr Mitra wedi cael ei benodi fel Deon Cysylltiol Sgiliau Clinigol ac Efelychiad ar gyfer AaGIC. Mae wastad wedi bod yn angerddol am addysgu, hyfforddi, ac yn enwedig efelychiad.

“Mae hyn yn newyddion gwych ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fydd yn arbennig yn y rôl hon.”

Ychwanegodd yr Athro Arpan Guha, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Hoffwn longyfarch Dr Mitra a dangos ein cefnogaeth.

“Yn y rôl hon bydd ganddo gylch gwaith eang, gan weithio ar draws hyfforddiant Meddygol a Deintyddol, Nyrsio a Bydwreigiaeth, Fferyllfa a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i arwain at goethi a datblygu ein haddysg efelychiad ymhellach i roi budd i’r holl broffesiynau yn y Bwrdd Iechyd, gan wella profiad a diogelwch ein holl wasanaethau clinigol.”

Mae hon yn swydd newydd sbon yn AaGIC a dywedodd eu Deon Meddygol Ôl-raddedig ei fod yn edrych ymlaen at groesawu Dr Mitra i’r tîm. 

Dywedodd Dr Tom Lawson: “Rwy’n falch bod Dr Mitra wedi cael ei benodi i rôl Deon Cysylltiol Efelychiad yn AaGIC. 

“Mae ganddo hanes helaeth yn y maes hwn a bydd yn ychwanegiad a fydd yn cael ei groesawu’n fawr at dîm efelychiad aml-broffesiynol AaGIC.”

“Mae’n dangos yr holl werthoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i symud yr agenda efelychiad ymlaen yng Nghymru, gan weithio gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr ein bod yn addysgu ac yn hyfforddi’r gweithlu gofal iechyd ar gyfer y dyfodol i’r safon uchaf.”