Neidio i'r prif gynnwy

Ailddechrau gofal wedi'i gynllunio

Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer y bobl yn ein hysbytai sydd â COVID-19 wedi dechrau gostwng, fel y mae nifer yr achosion yn ein cymunedau.

Rydym bellach mewn sefyllfa i ailddechrau elfennau o ofal rheolaidd nad yw'n frys y bu'n rhaid i ni ei ohirio, ac i ddechrau mynd i'r afael â'r ôl-groniad o bobl sy'n aros.

Ar hyn o bryd, mae dros 40,000 o gleifion yn aros mwy na 52 wythnos am driniaeth ar draws Gogledd Cymru, ac wrth i ni fynd ati i ailddechrau gofal wedi'i drefnu, bydd ein ffocws ar y bobl hynny sydd â'r angen mwyaf am driniaeth frys. 

Dywedodd yr Athro Arpan Guha, Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Yn ystod mis Mawrth 2020, wrth i'r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf gael ei roi ar waith, gwnaethom y penderfyniad anodd i ohirio gofal rheolaidd a gofal nad yw'n frys er mwyn sicrhau bod digon o staff a chyfleusterau ar gael i ofalu am gleifion â'r salwch gwaethaf, yn enwedig y rhai lle bo angen gofal critigol.

"Hoffem ddiolch i'r cleifion hynny y mae eu hapwyntiadau a'n triniaethau wedi'u gohirio am eu hamynedd a'u dealltwriaeth o ran y newidiadau y bu'n rhaid i ni eu gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Gwyddom fod hon yn adeg bryderus i bobl sy'n aros am driniaeth. Rydym yn ystyried ystod o fesurau i weithio mor effeithlon â phosibl, gan sicrhau bod pobl sydd â'r angen clinigol mwyaf yn cael eu blaenoriaethu am driniaeth cyn gynted â phosibl.

"Byddwn yn cysylltu â phob un o'n cleifion sydd eisoes wedi bod yn aros cryn amser am driniaeth i ofyn p'un a yw eu sefyllfa wedi newid a pha un a oes yn dal i fod angen triniaeth arnynt fel rhan o adolygiad, gyda chymorth y Cyngor Iechyd Cymuned, a fydd yn helpu i flaenoriaethu cleifion am driniaeth.

"Bydd yr adolygiad hefyd yn helpu i ganfod cleifion y mae eu symptomau wedi pylu neu sydd wedi manteisio ar driniaeth mewn mannau eraill ar gyfer eu cyflwr.

“Bydd cleifion hefyd yn cael yr opsiwn o ddewis gadael eu rhestr aros. Caiff unrhyw glaf sy’n dewis cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros ei adolygu gan glinigwr.

"Gwyddom pa mor anodd y mae hyn wedi bod i bobl sydd wedi aros yn amyneddgar, weithiau mewn amgylchiadau anodd iawn, ac rydym yn gofyn i bobl barhau i fod yn amyneddgar ac yn barchus tuag at ein staff wrth i ni wneud ein gorau i gyrraedd cynifer o bobl cyn gyflymed â phosibl."

Mae rhai meysydd lle mae pobl wedi bod yn aros hiraf am driniaeth yn cynnwys:

• Orthopaedeg, er enghraifft, llawdriniaeth gosod cluniau a phen-gliniau newydd

• Llawfeddygaeth Gyffredinol, er enghraifft, tynnu cerrig bustl a thorllengig

• Wroleg, er enghraifft, tynnu codenni

• Offthalmoleg, er enghraifft, llawdriniaeth cataractau

• Gynaecoleg, er enghraifft, hysterectomi

Bydd ein timau clinigol yn ystyried pwy sydd â'r angen clinigol mwyaf, ac yn blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol wrth i bob gwasanaeth ailddechrau.

Efallai y byddwn yn gofyn i bobl dderbyn eu triniaethau mewn ysbyty gwahanol i'r un y byddent wedi disgwyl mynd iddo, efallai, gan gynnwys defnyddio'r sector annibynnol. Mae hyn er mwyn ein helpu i ddarparu triniaeth cyn gynted â phosibl.

Trwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio'n hynod galed i gadw pobl sydd â COVID ar wahân i'r rheiny nad yw'r firws arnynt pan fyddant yn dod i'r ysbyty neu'n defnyddio unrhyw rai o'n gwasanaethau eraill. Rydym am roi sicrwydd i bobl y bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth bennaf i ni a bydd yr holl gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith yn ystyried risgiau COVID sy'n debygol o fod gyda ni am gryn amser. Mae hyn yn cynnwys parhau i ddefnyddio technoleg er mwyn rhoi gofal o bell lle bo'n briodol, er enghraifft, defnyddio ymgynghoriadau rhithiol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Ailddechrau gofal wedi'i gynllunio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)