Neidio i'r prif gynnwy

Aduniad emosiynol Tad gyda'i achubwyr bywyd yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd

Mae tad i dri o blant a gafodd ataliad ar y galon yn annog pobl i ddysgu CPR ar ôl i'w fywyd gael ei achub gan sgiliau a meddwl cyflym y rhai a ddaeth i'w helpu.

Dywedodd Jem Taylor, sy'n 57 mlwydd oed ei fod yn hynod ddiolchgar i Linda Rycroft, Prif Nyrs yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ac Angie Mulhearn, oedd hefyd wrth law am ei gadw'n fyw pan gwympodd ar blatfform yng ngorsaf drên Warrington y llynedd.

Yn ddiweddar cafodd Jem ei aduno â Linda ac Angie am y tro cyntaf ers y digwyddiad dramatig ar 26 Mawrth 2018.

"Nid ydw i'n cofio beth ddigwyddodd. Fe gwympais a'r peth nesaf rwy'n cofio yw deffro yn yr ysbyty ble dywedwyd wrthyf fy mod wedi cael ataliad ar y galon.

"Gallaf ond rhoi'r hyn a ddigwyddodd at ei gilydd drwy siarad â Linda ac Angie.

"Daeth Angie o hyd i mi ar y platfform wedi i mi gwympo a dechreuodd wneud CPR am oddeutu 15 munud hyd nes wnaeth Linda gymeryd drosodd," dywedodd.

Roedd Linda ar ei ffordd yn ôl i Lerpwl ar y trên pan welodd Jem ar y platfform a daeth oddi ar y trên ar unwaith ac fe aeth i'w helpu.

Dywedodd: "Rwy'n cofio, wrth i ni ddod i mewn i'r orsaf clywais ddynes yn sgrechian am help ac wrth i mi edrych allan drwy'r ffenestr gwelais rywun ar y llawr.

"Fe adewais y trên a gwelais ddynes, sef Angela, yng nghanol gwneud CPR ar ddyn. Rhedais i'w helpu gan ofyn i Angela gynnal ei lwybr anadlu wrth i mi barhau â'r CPR.

"Parheais i wneud CPR am 30 munud hyd nes daeth y parafeddygon a roddodd sioc i Jem gyda diffibrilwyr dair gwaith. 

"Fe aed ag ef yn syth i Ysbyty’r Galon a'r Frest yn Lerpwl a rhoddais drosglwyddiad o'r digwyddiad i'r meddyg ymgynghorol a'i dîm dros y ffôn. Ni fyddwn yn disgwyl i rywun a oedd wedi bod i lawr am bron i awr oroesi neu pe byddent yn goroesi byddent o dan gardiolegydd am weddill eu hoes. ”

Cafodd Jem ei ruthro'n syth i'r theatr ble gafodd stent yn y rhydweli sy'n gwasanaethu ei galon a chafodd ei drosglwyddo i'r Uned Gofal Dwys.

Arhosodd yn yr ysbyty am bron i bythefnos ac er syndod i Linda ni ddioddefodd unrhyw niwed i'w ymennydd ac nid yw bellach o dan ofal Uned Gofal Coronaidd ei ysbyty lleol.

"Rwyf wedi fy synnu pa mor dda mae Jem yn dod ymlaen, mae'n wyrth ei fod yn fyw. Mae ffigyrau'r DU gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn dangos nad yw 1 ym mhob 10 unigolyn yn goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, felly mae'n ffodus iawn", ychwanegodd.

Mae Jem yn ôl yn y gwaith yn llawn amser rŵan, yn ei rôl TG ym Mhrifysgol yr Ucheldir ac Ynysoedd Yr Alban ac ers hynny, mae wedi cymryd rhan yn yr "Highland Cross duathlon" - a oedd yn cynnwys taith gerdded 22 milltir ac yna taith feicio 30 milltir.

Dywedodd Angie, sy'n dod o Lerpwl ac sy’n gweithio fel gofalwr: "Mae'n wych gweld pa mor dda mae Jem yn edrych ac mae'n wych clywed ei fod yn ôl yn y gwaith a'i fod wedi cymryd rhan yn yr "Highland Cross duathlon"!

"Pan welais Jem ar y llawr, roeddwn yn benderfynol o beidio gadael iddo farw, roeddwn yn gwybod ei fod tua'r un oed â mi felly roeddwn am wneud popeth o fewn fy ngallu i'w gadw'n fyw.

"Rwy'n hapus iawn ei fod yn gwneud mor dda â'i fod yn ôl yn mwynhau bywyd gyda'i deulu."

Dywedodd Jem bod CPR wedi achub ei fywyd ac mae'n gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i ddysgu'r sgil achub bywyd.

Dywedodd: "Mae’r hyn wnaeth Linda ac Angie yn golygu ein bod wedi cadw ein teulu ynghyd. Y CPR a oedd yn sicrhau bod y gwaed yn parhau i lifo oedd yn fy nghadw'n fyw.

"Rwyf hefyd yn hynod o ddiolchgar am y driniaeth a gefais gan Mr Magapu a'r holl staff yn Ysbyty'r Galon a'r Frest Lerpwl, nid yn unig i mi, ond y ffordd bu iddynt gyfathrebu â Lizbeth a'i chefnogi drwy'r cyfan.

"Ar ôl i mi ddod yn ôl i'r Gogledd, gofalodd y tîm cardiaidd yn Ysbyty Raigmore yn Inverness a'r Ross Memorial yn Dingwall amdanaf gyda gofal ac arbenigedd gwych. Fe sicrhaodd pawb fod gennyf yr holl wybodaeth a'r gefnogaeth roeddwn ei angen i wneud adferiad mor dda â phosibl.

"Ar ôl beth ddigwyddodd, mae wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw cael sgiliau CPR sylfaenol. Mae fy ngwraig Lizbeth a minnau'n gobeithio bydd ein stori yn annog mwy o bobl i ddysgu'r sgil achub bywyd, fe all wir ddyblu'r siawns o oroesiad."

Am fwy o wybodaeth ar sut i ddysgu CPR ewch ar www.awyrlas.org.uk/keepthebeats