Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i neu fy anwylyd wedi cael ein heintio neu wedi cael ein heffeithio. Pa gymorth sydd ar gael?

Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru

Os hoffech gael cymorth ynghylch unrhyw faterion a godwyd gan yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig cysylltwch â Haemophilia Wales drwy info@haemophiliawales.org neu drwy eu ffurflen gyswllt ar-lein.

 

Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS)

Nod Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) yw darparu cymorth i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV o ganlyniad i driniaeth y GIG â gwaed yng Nghymru.

Ei nod yw darparu gwasanaeth taliadau ariannol symlach, gwasanaeth cyngor lles a gwasanaeth seicoleg a lles i fuddiolwyr Cymru a’u teuluoedd.

Mae Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhedeg eu cynlluniau cofrestredig unigol eu hunain. Yng Nghymru, gall unrhyw un a gafodd drallwysiad heintiedig mewn ysbyty yng Nghymru, waeth ble mae'n byw erbyn hyn, wneud cais i fod ar Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru.

I gofrestru ar gynllun, mae angen:

  • Cwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar wefan WIBSS;
  • Bod y cais wedi cael ei gymeradwyo gan weithiwr proffesiynol meddygol;
  • Bod wedi dangos tystiolaeth o drallwysiad a ddarparwyd gan y GIG yng Nghymru cyn mis Medi 1991;
  • Darparu tystiolaeth o haint Hepatitis C a/neu HIV.
     

Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys i wneud cais am gymorth, cysylltwch â'r tîm ar 02921 500 900 neu e-bostiwch wibss@wales.nhs.uk.

Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig unigol i oruchwylio’r holl hawliadau iawndal perthnasol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Wrth i'r gwaith i sefydlu'r cynllun unigol fynd rhagddo, bydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yn parhau i reoli'r gwasanaeth ac mae yno i'ch cefnogi. Ewch i wefan WIBSS am ddiweddariadau pellach.

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Mae'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig hefyd yn ariannu gwasanaeth cymorth cyfrinachol i unrhyw un yr effeithir arnynt gan driniaeth â gwaed neu gynhyrchion gwaed heintiedig. Mae hwn yn cael ei redeg gan dîm o’r Groes Goch Brydeinig sydd wedi bod yn gweithio gyda’r Ymchwiliad ers mis Medi 2018.

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth cymorth cyfrinachol yn uniongyrchol drwy ffonio 0800 458 9473 neu 0203 417 0280 ar yr adegau hyn:

  • Dydd Llun rhwng 11am ac 1pm
  • Dydd Mercher rhwng 7pm a 9pm
  • Dydd Gwener rhwng 2pm a 4pm

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.