Mae’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio’r amgylchiadau pan roddwyd cynhyrchion gwaed heintiedig i ddynion, menywod a phlant a gafodd driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig rhwng 1970 a 1991.
Cyhoeddir Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad yn Central Hall, San Steffan, ar 20 Mai 2024.
Gallwch ddarganfod mwy am yr Ymchwiliad ar wefan yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.