Neidio i'r prif gynnwy

A yw'n ddiogel cael trallwysiad gwaed, cynnyrch gwaed neu organ newydd erbyn hyn?

Mae gwaed a chydrannau gwaed yn cael eu rhoi gan wirfoddolwyr iach, di-dâl ac mae’r risg y bydd uned heintiedig yn cyrraedd cyflenwad gwaed y DU yn hynod o isel.

Mae rhoddwyr yn llenwi holiadur iechyd bob tro y maent yn rhoi gwaed ac mae rhoddion gwaed yn cael eu profi bob tro am ystod o heintiau posibl. Mae hyn yn golygu bod y siawns o drosglwyddo unrhyw haint yn isel iawn.

Ers 1985, mae’r holl waed a roddir yn y DU wedi’i brofi am HIV fel mater o drefn ac ers mis Medi 1991, mae’r holl waed a roddir yn y DU wedi’i brofi fel mater o drefn am Hepatitis C.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch a sgrinio gwaed ar wefan Grŵp Goruchwylio Cenedlaethol Iechyd Gwaed.

Cyn 1992, nid oedd organau a roddwyd yn cael eu sgrinio am Hepatitis C fel mater o drefn ac mae risg fach iawn y gallai organ a roddwyd gan rywun â Hepatitis C ledaenu'r haint.