7 Awst 2025
Cyrraedd cerrig milltir wrth ddatblygu Hwb Orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno
Mae gwaith ar yr Hwb Orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno yn mynd rhagddo, wrth i nifer o ardaloedd yn yr adeilad gyrraedd cerrig milltir pwysig fel rhan o brosiect ailddatblygu mawr i ehangu gofal llawfeddygol wedi'i gynllunio yng Ngogledd Cymru.
Mae'r hwb newydd, a fydd yn arbenigo mewn gweithredoedd orthopedig wedi'u cynllunio fel gosod cluniau a phengliniau newydd, yn cael ei ddatblygu er mwyn helpu i leihau amseroedd aros ac i wella mynediad at ofal o ansawdd uchel ar draws y rhanbarth.
Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud dros yr wythnosau diwethaf, yn cynnwys:
Canolfan Ynni – Mae gwaith ar y to, y bondo a'r ffasgia wedi cael ei gwblhau erbyn hyn. Mae offer trydanol mawr yn cael ei osod ar hyn o bryd, a bydd y cam nesaf yn cynnwys ychwanegu cafnau dŵr, a disgwylir i waith tir a gosod ceblau ailddechrau'n fuan er mwyn cysylltu'r ganolfan â phrif ystafell switsys yr ysbyty.
Theatrau – Mae gwaith mewnol yn parhau, ac mae plastrfyrddau'n cael eu gosod yn yr ardaloedd theatr newydd. Mae gwaith peirianyddol a thrydanol strwythurol yn parhau, ac mae gwaith plastro wedi dechrau yn yr ardal adferiad ag wyth wely.
Ward Aberconwy – Mae'r addurniadau terfynol yn cael eu gwneud, ac mae'r dodrefn bellach yn cael eu gwneud ar ôl cymryd mesuriadau o'r safle.
Yr Adran Pelydr-X – Mae gwaith gosod plastrfyrddau wedi cael ei gwblhau, ac mae gwaith plastro ac addurno ar y gweill. Mae gwaith peirianyddol a thrydanol bron â chael ei gwblhau, ac mae'r gwaith wedi dechrau i osod y lloriau.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Nicola Eatherington: "Rydym yn hynod falch o sut mae'r prosiect yn symud yn ei flaen. Mae'r timau sydd ar y safle'n gweithio'n hynod galed i gyflwyno'r cyfleuster hwn y mae gwir angen amdano, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion lle bo angen llawdriniaeth orthopedig. Mae'n gyffrous gweld pob ardal yn datblygu ac yn symud yn nes at gael ei chwblhau."
Caiff rhagor o ddiweddariadau eu rhannu wrth i'r prosiect symud ymlaen at ei gam nesaf.
17 Mawrth 2025
Mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar strwythur allanol Hwb Orthopedig newydd gwerth £29.4m ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn Ysbyty Llandudno.
Bydd yr hwb newydd yn trawsnewid gwasanaethau gofal orthopedig a gynlluniwyd ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Y bwriad yw cynnig 1,900 o driniaethau wedi'u cynllunio bob blwyddyn er budd cleifion, staff a’r gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru.
Bydd y ganolfan bwrpasol hon yn arbenigo mewn trin nifer uchel o achosion syml gan gynyddu'r gweithgarwch orthopedig blynyddol a darparu gwasanaethau orthopedig y tu hwnt i’r ysbytai. Bydd yn lleihau effeithiau gofal heb ei drefnu ar driniaethau a gynlluniwyd, ac yn lleihau'r siawns y bydd llawdriniaethau'n cael eu gohirio.
Mae'r camau nesaf yn ymwneud â gwaith mewnol, gydag addurno eisoes ar y gweill yn Ward Aberconwy â'r lloriau a'r drysau yn cael eu gosod yn y mis nesaf.
Mae'r gwaith adfer yn yr Adran Pelydr-X wedi'i gwblhau a'r estyniad i'r uned ar ddechrau.
Bydd y cladin a'r to ar y theatrau newydd yn cael eu cwblhau dros y mis nesaf ac yna bydd y gwaith mewnol yn dechrau.
Dywedodd Nicola Eatherington, Cyfarwyddwr Prosiect yr Hwb Gofal Orthopedig a Gynlluniwyd: “Mae wedi bod yn wych gweld yr Hwb yn datblygu dros y misoedd diwethaf.
“Roeddem yn falch iawn o groesawu ein Prif Weithredwr i’r safle yn ddiweddar. Cafodd daith o amgylch y safle a chyfle i glywed y newyddion diweddaraf am y prosiect.
“Bydd y capasiti llawfeddygol ychwanegol a geir yn yr adeilad yn cael effaith sylweddol ar nifer y cleifion y gallwn eu trin.
“Hoffem hefyd ddiolch i staff Ysbyty Llandudno a’r cymdogion cyfagos am eu hamynedd yn ystod y gwaith hwn.”