Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Diweddariadau ar ein cynlluniau brechu a chynnydd ar y brechiadau yng Ngogledd Cymru

Rhagfyr 13, 2024

Bellach, gall unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 gerdded i mewn i un o'n canolfannau brechu yn y gymuned heb apwyntiad. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwahodd unrhyw un sy'n gymwys i gael y brechlyn ond sydd heb gael pigiad eto i ddod i gael hwb i'w hamddiffyniad rhag salwch a achosir gan y firws cyn y Nadolig. 

Gellir galw heibio i gael brechiadau o ddydd Llun 16 Rhagfyr ymlaen. Mae manylion lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau ar gael ar ein gwefan.

Mae pobl sy'n 65 mlwydd oed neu'n hŷn, unrhyw un sydd â chyflwr iechyd hirdymor a merched beichiog ymhlith y grwpiau cymwys. Gall staff gofal, gofalwyr a gweithwyr y GIG a gofal iechyd ddewis cael y brechlyn atgyfnerthu os byddant yn dymuno. Mae rhestr lawn o fanylion y grwpiau cymwys ar gael ar ein gwefan.

Gall staff y GIG hefyd gerdded i mewn i un o'n clinigau i gael eu brechlyn rhag y ffliw.
 

Os ydych chi eisoes wedi cael apwyntiad

Mae gwahoddiadau ar gyfer y brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 bellach wedi’u hanfon at oedolion yng Ngogledd Cymru sy'n 65 mlwydd oed neu hŷn a phawb rhwng chwe mis a 64 mlwydd oed sydd â chyflwr iechyd sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o ddal salwch difrifol. 

Os ydych chi eisoes wedi cael llythyr yn cadarnhau manylion eich apwyntiad i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 , gallwch gadw at y dyddiad a’r amser a nodir yn eich llythyr neu ddewis galw heibio i ganolfan frechu yn gynt na hynny. Os byddwch chi'n galw heibio, nid oes angen i chi gysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad gwreiddiol.

Gofynnwn i bobl sy'n galw heibio i fod yn amyneddgar - efallai y bydd rhaid i chi aros am ychydig ar adegau prysur. Byddwch yn barod i helpu ein timau drwy aros nes bydd slot ar gael.

Os dymunwch drefnu apwyntiad, cysylltwch â Chanolfan Alwadau ein Gwasanaeth Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.
 

Cofiwch dderbyn y cynnig i gael eich brechu

Mae ein timau wedi rhoi bron i 110,000 o frechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 i lawer o'r bobl fwyaf bregus yng Ngogledd Cymru hyd yn hyn y gaeaf hwn. Mae meddygfeydd, fferyllfeydd cymunedol a thimau imiwneiddio ysgolion hefyd wedi helpu mwy na 170,000 o bobl i leihau'r perygl o ddal haint difrifol yn sgil y ffliw trwy roi brechlyn blynyddol y GIG rhag y ffliw iddynt.

Dymunwn ddiolch i'r niferoedd sylweddol o bobl yng Ngogledd Cymru sydd wedi dod i gael eu brechu. Rydym yn dal yn argymell yn gryf y dylai pawb sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag  COVID-19 a brechlyn rhag y ffliw gan y GIG i dderbyn y cynnig i gael eu brechu. 

Mae lefelau heintiau yn sgil y ffliw yn cynyddu yng Ngogledd  Cymru, ac mae'r nifer o achosion o'r ffliw sy'n dod i'r amlwg yn ein hysbytai eisoes yn cynyddu.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra i gael brechlyn rhag y ffliw a sut i gael y brechlyn ar gael yma.

Gall y firysau hyn fod yn ddifrifol, ac mae'r brechlynnau yn helpu i amddiffyn pobl sy'n fwy agored i niwed yn sgil y firysau. Ar ôl cael eich brechu, byddwch yn llai tebygol o ddal COVID-19 neu'r ffliw, ac os byddwch yn eu dal, bydd y brechlynnau yn lleihau difrifoldeb tebygol y symptomau.

Maent hefyd yn helpu i amddiffyn y gymuned ehangach rhag brigiadau, ac yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau lleol y GIG yn ystod cyfnod prysuraf y flwyddyn.

Os cewch eich brechu nawr, byddwch wedi cael amddiffyn yn y ffordd orau bosibl mewn da bryd cyn y Nadolig, a bydd hynny'n eich helpu chi a'ch teulu i fwynhau tymor yr ŵyl gan wybod bod y dull gorau o amddiffyn rhag firysau'r gaeaf yn eich diogelu.

 

Mae diweddariadau blaenorol

Mae diweddariadau blaenorol wedi'u harchifo