Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Diweddariadau ar ein cynlluniau brechu a chynnydd ar y brechiadau yng Ngogledd Cymru

Mawrth 11, 2025

Cynyddodd mwy na 67,000 o bobl sydd â'r risg uchaf o salwch difrifol a achosir gan COVID-19 eu hamddiffyniad rhag y feirws ledled Gogledd Cymru yr hydref a'r gaeaf hwn

Hoffem ddiolch i bawb a fanteisiodd ar y cynnig o gael eu brechu, sydd wedi helpu i leihau salwch difrifol a achosir gan COVID-19. Gogledd Cymru oedd â'r gyfradd uchaf ar y cyd o frechlyn COVID-19 yng Nghymru yn ystod yr ymgyrch.

Hoffem hefyd ddiolch i'r nifer o bobl a roddodd gymorth o ran darparu'r brechlyn yn ein hardal – gan gynnwys ein partneriaid mewn meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol, a'r rhai a helpodd aelodau o'r teulu, ffrindiau ac anwyliaid mwy agored i niwed i fynychu apwyntiad brechu.

Yn dilyn canllawiau gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru, mae ein timau'n cynllunio rhaglen frechu COVID-19 y Gwanwyn yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

Yn unol ag ymgyrchoedd blaenorol y Gwanwyn, bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i oedolion 75 oed neu'n hŷn, preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, ac oedolion a phlant chwe mis oed neu'n hŷn sydd â system imiwnedd wannach.

Rydym yn disgwyl dechrau cyflwyno brechlyn COVID-19 y Gwanwyn eleni ym mis Ebrill. Mae ein timau ar hyn o bryd yn cwblhau cynlluniau cyflawni a byddant yn rhannu rhagor o fanylion cyn bo hir.  
 

Ymestyn cymhwysedd brechlyn RSV

Yn dilyn cyngor diweddaredig gan y JCVI a Llywodraeth Cymru, bydd cymhwysedd ar gyfer y brechlyn RSV yn cael ei ymestyn i bawb dros 80 oed a phob preswylydd mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn.

Mae'r brechlyn wedi cael ei gynnig i bobl rhwng 75 ac 80 oed ers mis Medi 2024, ac mae wedi dangos ei fod yn effeithiol iawn wrth amddiffyn rhag mynd i'r ysbyty oherwydd y  feirws.

Lle bo hynny'n bosibl, rydym yn gobeithio gallu cynnig brechlyn RSV i bob person hŷn cymwys yn yr un apwyntiad â brechlyn COVID-19 y gwanwyn. Mae ein timau'n cwblhau cynlluniau cyflawni ar gyfer y rhaglen estynedig hon yma yng Ngogledd Cymru a byddant yn rhannu rhagor o fanylion cyn bo hir.
 

Mae brechlynnau ffliw ar gael tan 31 Mawrth

Mae'r ffliw yn dal i gylchredeg yng nghymunedau Gogledd Cymru. Rydym yn parhau i annog cleifion cymwys nad ydynt wedi cael eu brechlyn ffliw blynyddol y GIG i ddod atom cyn gynted â phosibl.

Mae brechlynnau ar gael mewn clinigau brechu cymunedol mewn 19 o leoliadau ledled Gogledd Cymru ac mewn nifer o bractisau Meddygon Teulu a fferyllfeydd cymunedol lleol hyd ddiwedd mis Mawrth.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechlyn a sut y gallwch ei gael, gan gynnwys dyddiadau, amseroedd a lleoliadau ein clinigau, ar gael ar wefan y bwrdd iechyd.

 


 

Mae diweddariadau blaenorol

 

Mae diweddariadau blaenorol wedi'u harchifo