Neidio i'r prif gynnwy

Ein clinigau brechu

Gall pobl ifanc sy'n gymwys ar gyfer brechlyn meningitis B alw heibio un o'n clinigau brechu yn y gymuned ar gyfer eu dos cyntaf neu ail ddos heb drefnu apwyntiad

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am leoliadau ein clinigau a dyddiadau ac amseroedd y sesiynau brechu galw heibio isod. 

Mae'r brechlyn ar gael ar gyfer:

  • pob unigolyn 17 a 18 oed a anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008
  • pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed (anwyd rhwng 21 Gorffenaf 2001 a 31 Awst 2007) a fydd yn dechrau cwrs prifysgol neu goleg preswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn

Mae angen dau ddos o'r brechlyn i'ch amddiffyn eich hun yn llawn. Byddwch yn cael apwyntiad ar gyfer ail ddos ar ôl derbyn eich un cyntaf, fel arfer, rhyw bedair wythnos yn ddiweddarach. Sicrhewch eich bod yn cael y ddau ddos.

Prifysgol Bangor

Caiff clinigau brechu MenB eu cynnal yn Hwb y Myfyrwyr yn y Prif Adeilad Celfyddydau ym Mangor (LL57 2DG) rhwng 10am a 3pm ddydd Mercher 23 Medi a dydd Iau 24 Medi.

  • Os cawsoch eich dos cyntaf y tu allan i Gymru, dewch â thystiolaeth o’ch statws brechu gyda chi os oes modd – e.e. y cerdyn cofnodi brechu rhag MenB a gawsoch yn dilyn eich dos cyntaf, neu ffotograff ohono.
  • Os cawsoch eich geni ar 31 Awst 2007 neu cyn hynny, dewch â thystiolaeth bod disgwyl i chi ddechrau ar flwyddyn gyntaf cwrs preswyl mewn prifysgol neu goleg yr hydref hwn.
Prifysgol Wrecsam

Caiff un clinig brechu MenB eu cynnal Ystafell A30 yn y prif adeilad yn Plas Coch yn Wrecsam (LL11 2AW) rhwng 10am a 3pm ddydd Iau 24 Medi.

  • Os cawsoch eich dos cyntaf y tu allan i Gymru, dewch â thystiolaeth o’ch statws brechu gyda chi os oes modd – e.e. y cerdyn cofnodi brechu rhag MenB a gawsoch yn dilyn eich dos cyntaf, neu ffotograff ohono.
  • Os cawsoch eich geni ar 31 Awst 2007 neu cyn hynny, dewch â thystiolaeth bod disgwyl i chi ddechrau ar flwyddyn gyntaf cwrs preswyl mewn prifysgol neu goleg yr hydref hwn.

Clinigau cymunedol

 

Cysylltwch â ni ynghylch eich apwyntiad

Er mwyn trefnu apwyntiad brechu, aildrefnu apwyntiad neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Mwy o wybodaeth am galw'r Ganolfan Gyswllt Brechu.