Gwnaethom gynnal Cyfarfod Eithriadol o'r Bwrdd ddydd Iau, 11 Ebrill er mwyn ystyried yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS).
Roedd hyn yn gyfle i ni drafod ac ystyried yr argymhellion wedi'u diweddaru a gyflwynwyd gan yr Adolygiad.
Fel Bwrdd, rydym yn deall ac yn derbyn yr achos dros newid a phwysigrwydd mynd i'r afael â lefel yr anghenion heb eu diwallu yn ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Roeddem yn teimlo ar adeg fel hon nad oeddem yn gallu cefnogi'r argymhellion oherwydd diffyg manylion mewn perthynas ag Argymhelliad 4, fel y mae ar hyn o bryd. Rydym yn credu bod angen gwaith pellach i ystyried opsiynau gwahanol i fynd i'r afael â'r anghenion presennol heb eu diwallu yn ein poblogaeth.
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr yn hollbwysig i ni yng Ngogledd Cymru felly rydym yn awyddus i weld y cynigion gorau posibl yn cael eu cyflwyno a fydd yn gwella'r gwasanaeth i'n poblogaeth.
Rydym yn cefnogi'r gwaith a gaiff ei wneud gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddarparu mwy o dystiolaeth i ategu unrhyw newid neu argymhellion. Fel rhan o hyn, hoffem weld ymgysylltu pellach â'n rhanddeiliaid a'n cymunedau, yn benodol y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, er mwyn helpu i gadw eu hyder o ran y gwasanaeth.
Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd wedi cyfarfod erbyn hyn i ystyried adolygiad EMRTS, a chaiff eu sylwadau unigol eu hystyried mewn cyfarfod cyhoeddus o Gyd-bwyllgor Comisiynu Cenedlaethol GIG Cymru ar 23 Ebrill 2024.
Gallwch wylio ein Cyfarfod Eithriadol isod: