Rhagfyr 19 2024
Gall pawb yng Ngogledd Cymru gyfrannu at helpu mwy o bobl i fod yn fwy actif yn amlach, yn ôl adroddiad ar iechyd y rhanbarth
Fe wnaeth Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus i’r Bwrdd Iechyd, ddefnyddio ei hadroddiad blynyddol i rybuddio bod y rhanbarth yn wynebu argyfwng yn sgil anweithgarwch corfforol, ac fe wnaeth hi annog mwy o bobl sy'n byw ac yn gweithio yma i wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
Mae llai na hanner yr oedolion sy'n byw yng Ngogledd Cymru yn mynd ati'n rheolaidd i gyflawni lefel y gweithgaredd corfforol a argymhellir gan y Prif Swyddog Meddygol, a dim ond un o bob chwech unigolion ifanc 11-16 mlwydd oed sy'n cyflawni'r lefel argymelledig o 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol neu egnïol bob dydd.
Yn ei hadroddiad, mae Dr Moore yn deisyfu ar gymunedau, cyflogwyr a sefydliadau mawr i helpu i sicrhau bod gwneud mwy o ymarfer corff yn ddewis haws a mwy deniadol, a dywed y gall unigolion gynnig arweiniad a dylanwadu ar ffrindiau, teulu a chydweithwyr trwy gyfrwng eu harferion a'u hymddygiad.
Bydd gweithgarwch corfforol rheolaidd yn ein helpu i deimlo'n well a chynnal pwysau iach, ond gall hefyd ein cynorthwyo i gysgu'n well a gwella ein lles meddyliol. Gall helpu pobl i deimlo'n llai ynysig ac unig, a'u helpu i feithrin cysylltiadau newydd a dod i adnabod ffrindiau newydd.
Gall ymarfer corff gynnig buddion o ran yr economi a'r amgylchedd hefyd. Mae sicrhau gweithlu iach a bywiog yn cynyddu cynhyrchiant, a gall teithio mwy llesol leihau allyriadau a thagfeydd a gostwng lefelau llygredd sŵn.
Dywedodd Dr Moore: “Yma yng Ngogledd Cymru, rydym yn ffodus iawn fod natur mor agos atom ni a bod gennym gymaint o gyfleoedd i gadw'n heini heb fentro ymhell o garreg ein drws.
“Ond mae dibynnu ar y car i deithio, treulio amser cynyddol yn gwylio sgriniau, prinder mannau diogel a hygyrch i chwarae, galwedigaethau 'eisteddog', trefoli canol trefi a dinasoedd, yr argyfwng costau byw, tlodi a normau diwylliannol oll wedi cyfrannu at gynyddu lefelau anweithgarwch corfforol.
“Felly, i wella iechyd meddwl a chorfforol pawb ohonom ni a gwireddu manteision lles niferus ymarfer corff rheolaidd, mae angen i ni oll wneud mwy i sicrhau bod symud yn ddewis haws a mwy deniadol.
“Mae'r adroddiad yn nodi sut y gallwn ychwanegu at y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol niferus a chlybiau a grwpiau chwaraeon lleol. I wneud hyn, bydd angen cydweithio i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, datblygu dulliau cynllunio, polisïau ac arferion mewn gweithluoedd a wnaiff annog pobl i fod yn actif, a chynnig cymorth i bobl i oresgyn unrhyw anawsterau y maent yn eu profi.
“Gall newidiadau bach wneud wahaniaeth mawr. Dyma fan cychwyn ein taith i sicrhau bod Gogledd Cymru ar Garlam – a chreu rhanbarth ble gall pawb gyfranogi mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd - beth bynnag fo'u hoedran, eu rhywedd a'u cefndir.”
Mae'r Bwrdd Iechyd eisoes yn cydweithio â'n partneriaid yn Gogledd Cymru Actif i amlygu dulliau gwych i wneud mwy o ymarfer corff, a datblygu dulliau newydd i roi hwb i lefelau gweithgarwch corfforol mewn gweithleoedd a chymunedau lleol.
Mae'r adroddiad hefyd yn dwyn sylw at enghreifftiau gwych o ddulliau cynhwysol y gellir eu defnyddio i annog gweithgarwch corfforol gan gynnwys blaengareddau megis parkrun, FIT Dragons a WOW – Her Cerdded i’r Ysgol.
Cafodd Adroddiad Blynyddol 2024 y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus o Gogledd Cymru ei gymeradwyo gan aelodau'r Bwrdd Iechyd yn ystod eu cyfarfod y mis diwethaf, a gallwch weld yr adroddiad yma.
🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.