03.10.2024
Mae merch ifanc â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio canolfan argyfwng cymunedol cynlluniedig.
Mae gan Aaliyah Ramessur awtistiaeth, ac y mae hi wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys meddyliau hunanladdol trwy gydol ei phlentyndod ac wedi hynny. Siaradodd yn ddewr am ei phrofiadau a sut nad oedd yr Adrannau Achosion Brys yn teimlo fel y lle cywir i fod, fel plentyn yn wynebu argyfyngau iechyd meddwl.
Mae hi a’i mam, Fay, yn cefnogi menter newydd gan wasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) y Bwrdd Iechyd. Yn cael ei alw’n Dewis Arall yn lle Derbyn / Alternative to Admission (A2A), bydd yn darparu canolfan argyfwng saith diwrnod yr wythnos i bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yng Nghonwy a Sir Ddinbych, neu ar gyfer unigolion sy’n mynd i Ysbyty Glan Clwyd.
Bydd y cynlluniau, a gafodd sêl bendith yn ddiweddar ar ôl cadarnhad cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn gweld lleoliad pwrpasol yn cael ei ddatblygu ar gyfer y gwasanaeth, a bydd ar agor rhwng 9am a hanner nos. Ei nod yw lleihau nifer y derbyniadau sy’n gysylltiedig ag argyfyngau iechyd meddwl i'r ysbyty a gorchmynion Adran 136 ar gyfer plant a phobl ifanc.
Yn cael ei staffio gan y Tîm Gofal Heb ei Drefnu yn Ardal y Canol, y nod yw sicrhau lle mwy priodol ar gyfer y bobl ifanc hynny a fyddai fel arall yn mynd i adrannau achosion brys prysur, ac o bosib yn treulio amser mewn gwely yn yr ysbyty. Yn ogystal â bod o fudd i bobl ifanc mewn argyfwng, y gobaith yw y bydd yn lleihau'r pwysau ar y staff sy’n gweithio’n ddiflino yn yr Adrannau Achosion Brys.
Darllenwch fwy: Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Eglurodd Aaliyah ei phrofiad o fynd i’r adrannau achosion brys fel merch ifanc, tra yng nghanol gofid iechyd meddwl. Dywedodd: “Roedd yn frawychus, oherwydd fel plentyn, nid ydych mewn gwirionedd eisiau bod yno. Y prif beth i mi oedd nad oedden nhw wir yn deall beth oedd yn bod.
“Maen nhw wedi'u hyfforddi i wneud rôl arbennig, a phan maen nhw'n gorfod gwneud rôl rhywun arall, mae'n anodd iddyn nhw - ac mae'n anodd i mi oherwydd, yn amlwg rydych yn ysu am y gefnogaeth a'r gofal cywir.
“Roeddwn yn teimlo fy mod angen rhywun i wrando arnaf, tra bod ganddyn nhw weithdrefnau y mae angen iddyn nhw ei dilyn. Nid ydyn nhw’n gwybod beth i'w ddweud wrthych oherwydd nid ydynt yn arbenigo yn y maes dan sylw.”
Yn amlach na pheidio, roedd y profiadau hynny’n golygu bod Aaliyah yn aros yn yr ysbyty dros nos i weld clinigydd y diwrnod canlynol. O dro i dro gallai fod yn aros am fwy o amser.
Eglurodd, “Erbyn yr amser hwnnw roeddwn yn teimlo’n rhwystredig. Roeddwn eisiau gadael. Byddwn yn mynd yn bryderus iawn a byddai fy meddyliau’n gwaethygu. Roedd fel petai fy holl deimladau negyddol yn gwaethygu, ac roeddwn yn teimlo nad oedd neb yn gwrando arnaf i a neb yn deall.”
Roedd Fay Ramessur yn ategu safbwynt ei merch, gan ddweud nad oedd yr adrannau achosion brys bob amser y llefydd mwyaf addas ar gyfer plant a oedd yng nghanol trallod iechyd meddwl. Mae hi'n credu y gallant fod yn frawychus ac yn peri gofid mawr i bobl sy'n profi cyfnodau o iechyd meddwl difrifol - yn enwedig os ydyn nhw’n blant.
“Roedd bod yn yr adran achosion brys yn cael effaith wael arni,” datgelodd Fay. “Byddai gorbryder Aaliyah yn mynd yn annioddefol. Byddai’n brwydro yn erbyn pawb a phopeth. Byddai hi’n teimlo’n waeth amdani hi ei hun oherwydd doedd hi ddim eisiau bod yno, ond doedd hi ddim yn gwybod beth arall i’w wneud.”
Esboniodd Fay sut, ar ôl blynyddoedd lawer o frwydro i gael diagnosis o awtistiaeth ar gyfer Aaliyah, datblygodd ei merch broblemau gyda'i hiechyd meddwl. Pan ddaliodd Aaliyah am y tro cyntaf yn paratoi i ddiweddu ei bywyd, sylweddolodd bod ei theulu angen help.
Datgelodd sut roedd hi'n teimlo'n aml nad oedd unman y gallai droi ato ac nad oedd neb yn deall mewn difrif sut brofiad oedd dyfalu'n barhaus a chadw ei merch yn ddiogel rhag niweidio ei hun.
Dywedodd; “Roeddwn yn meddwl, rwyf angen bod yn fam iddi, nid ei therapydd. Mae angen i rywun arall wneud hyn oherwydd dydi hi ddim yn gwrando arnaf i – wnaiff beth sydd angen ei ddweud ddim cael ei gyfleu yn yr un modd gen i.”
Bu’r teulu sawl tro yn yr adran achosion brys yn ystod argyfyngau Aaliyah. Roedd hunan-niweidio, meddyliau hunanladdol ymhlith y problemau a byddai Aaliyah yn cael ei derbyn yn eu cylch, byddai cynllun yn cael ei roi ar waith a'r cylch yn cael ei ailadrodd. Ystyriodd Fay tybed am faint mwy o amser y bydd hyn yn parhau? Yn y pen draw, daeth Aaliyah ar draws therapydd y gallai hi uniaethu ag ef.
Nawr, o dan ofal gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, mae pethau’n parhau i fod yn frwydr ddyddiol i’r ferch ugain oed a’i mam. Fodd bynnag, roedd Aaliyah yn awyddus i rannu ei stori a chefnogi’r syniad o ganolfan argyfwng cymunedol CAMHS.
Dywedodd: “Yn y canolfannau argyfwng hyn, rwy'n teimlo y bydd pobl yn cael eu haddysgu llawer mwy am iechyd meddwl yn ystod plentyndod - beth i'w ddweud, sut i'w drin. Mae gennych y bobl arbenigol sy’n gallu eich helpu.
“Rwy'n meddwl yn y dydd, nid ydych yn cael eich gadael gyda'ch meddyliau a'ch teimladau eich hun. Rydych yn brysur, rydych yn gwneud pethau. Ond, yn ystod y nos, dyna pryd mae’r salwch meddwl yn eich llethu eto, felly mae'n dda y bydd y ganolfan ar agor yn hwyrach.”
Mae Aaliyah yn annog pobl ifanc a’u rhieni i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd hwn ac i siarad yn agored os ydyn nhw’n wynebu trafferthion.
“Byddwn yn bendant yn dweud wrthych am fynd i siarad â nhw”, dywedodd. “Er pa mor anodd yw siarad oherwydd nid ydych am ymddiried yn neb, oherwydd mae'n anodd ymddiried mewn pobl. Mae fel eich bod ar eich pen eich hun ac nad ydych chi eisiau siarad yn agored, ond dywedwch bopeth wrthyn nhw – ac rwy’n golygu popeth.
“Fel arall, os nad ydych yn dweud y stori gyfan wrthyn nhw, ni allant eich helpu’n syth. Doeddwn i ddim yn dweud y stori i gyd wrthyn nhw. Roeddwn yn dweud tameidiau o’r stori ac ni fyddwn yn derbyn y cymorth priodol yr oeddwn ei angen ar adegau.”
Dywedodd, Fay, ei mam, y byddai cael rhywle tawel i fynd lle y gallai Aaliyah gael amser i feddwl, yn hytrach nag adran achosion brys brysur, wedi bod yn “Fendith”.
Ychwanegodd; “Byddai rhywle ble gallwch geisio ymlacio, ychydig o bethau synhwyraidd, rhywle sy’n amgylchedd gwahanol sy’n tawelu ei meddwl yn hytrach na’i chynhyrfu yn anhygoel.”
Cindy Courtney yw arweinydd gofal mewn argyfwng rhanbarthol CAMHS. Wrth siarad ar ei rhan hi a rheolwr prosiect rhaglen CAMHS, Becky Rowlands, dywedodd: “Mae’n amlwg iawn wrth wrando ar storïau Aaliyah a’i mam Fay, ac o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, bod yr amgylchedd yn bwysig.
“Rydym yn cytuno’n llwyr fod angen lle cynnes, croesawgar a chyfforddus ar blant a phobl ifanc pan fyddant yn profi argyfwng iechyd meddwl.
“Mae’r prosiect A2A yn destun cyffro i ni oherwydd rydym yn gwybod y bydd yn darparu gofal tosturiol gan ein tîm gofal heb ei drefnu profiadol mewn man addas.
“Mae’n weledigaeth ar y cyd sydd wedi’i datblygu ochr yn ochr â phobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr, ac mae’n wych ei gweld yn dod yn fyw, fel y gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau unigolion ifanc.”
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)