Dywedodd Darren Nesbitt o Wrecsam ei fod wedi dod yn wirfoddolwr i roi rhywbeth yn ôl i'r staff yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam a wnaeth ei gefnogi pan oedd yng nghanol ei ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.
Yn awr yn gwella, mae Darren yn defnyddio ei brofiadau ei hun i gefnogi pobl eraill yn ystod eu diwrnodau anoddaf.
Dywedodd: "Dechreuais i wirfoddoli gyda MI FEDRAF i roi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned leol. Roeddwn hefyd eisiau talu fy nyled i'r Adran Achosion Brys, oherwydd fy mod i'n ymweld â'r Adran yn aml flwyddyn yn ôl. Ar y pryd, roeddwn i'n gaeth i alcohol a chyffuriau. Roeddwn i'n teimlo mor unig, ac ar goll, ac roeddwn i wir angen siarad â rhywun gan fy mod i'n byw ar fy mhen fy hun.
"Byddai'r Ganolfan Mi Fedraf wedi bod o gymorth mawr i mi yn ystod y diwrnodau tywyll hynny.
"Mae gwirfoddoli wedi rhoi'r cyfle i mi ddangos fy mod i'n gallu cyfrannu'n ddefnyddiol at gymdeithas, ac rwy'n gallu defnyddio fy sgiliau a'm profiad mewn ffordd dda. Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant, cyfleoedd i gymdeithasu a'r cyfle i wneud ffrindiau newydd."