Neidio i'r prif gynnwy

Prif Swyddog Gweithredu

Mae’r rôl hollbwysig hon, sef arweinydd Gweithredol ar gyfer perfformiad a chyflawniad gweithredol, yn adrodd yn uniongyrchol i mi. Bydd y Cyfarwyddwr, gyda’r gallu i ysgogi newid drwy ymgysylltu er mwyn gwella canlyniadau cleifion, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth y sefydliad a’r cynllun gwasanaethau clinigol a bydd yn gweithio gyda chydweithwyr i gyflawni gweledigaeth gofal iechyd y Bwrdd Iechyd.

 

Rydym yn chwilio am arweinydd uchel ei gymhelliant, sydd â hanes rhagorol a'r egni, gwytnwch a’r stamina angenrheidiol i fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol mewn Bwrdd Iechyd Prifysgol mawr, gyda phrofiad o’r gallu i osod a chwrdd â thargedau uchelgeisiol a monitro yn erbyn targedau.

Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn atebol i’r Bwrdd am gyflenwi gweithredol y gwasanaethau cymorth clinigol a chlinigol sy’n sail i gyfeiriad strategol y sefydliad, gyda’r ffocws allweddol ar berfformiad cyffredinol a’r angen i wella canlyniadau lles yn barhaus.

Bydd y swydd hon yn cael ei hysbysebu yn fuan. Bydd y ddolen i'r hysbyseb i'w gweld yma.