Neidio i'r prif gynnwy

Eich Dyfodol Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yn dilyn penodi Carol Shillabeer i rôl Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiweddar, mae Carol, ynghyd â’r Cadeirydd, Dyfed Edwards yn awyddus i sicrhau sefydlogrwydd drwy wneud penodiadau parhaol i swyddi yn y Tîm Gweithredol a’r Uwch Dimau a fydd yn llywio’r Bwrdd Iechyd i ddyfodol newydd cyffrous.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru ac rydym yn gwahodd arweinwyr tosturiol sydd â gweledigaeth, fel chi, i ymuno â’n tîm deinamig. Mae gennym ystod o swyddi gweithredol a swyddi uwch cyffrous a fydd nid yn unig yn eich herio a’ch grymuso ond hefyd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y Bwrdd Iechyd a lles ein cymunedau.

 

Ein Gwerthoedd

Er ei bod, wrth gwrs, yn hanfodol i recriwtio’r sgiliau a’r cymwysterau cywir ar gyfer pob rôl, rydym yr un mor ymrwymedig i recriwtio pobl dalentog sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd, sef

  • Rhoi Cleifion yn Gyntaf
  • Cydweithio
  • Gwerthfawrogi a pharchu eich gilydd
  • Dysgu ac Arloesi
  • Cyfathrebu'n agored ac yn onest

Felly os ydych chi'n teimlo bod eich gwerthoedd personol chi yn cyd-fynd â'n rhai ni, a'ch bod chi'n barod i ymuno â'n timau gwych, yna cliciwch ar bob dolen i weld manylion y swyddi sydd ar gael ac sydd i ddod;

 

 

 

 

Cysylltwch â Ni

Bydd Carol ac Dyfed yn annog ymgeiswyr sydd â diddordeb i gysylltu i gael sgyrsiau anffurfiol am y swyddi sydd ar gael;

  • Er mwyn trefnu galwad gyda Dyfed, cysylltwch â; Mandy.Williams7@wales.nhs.uk
  • Er mwyn trefnu galwad gyda Dyfed, cysylltwch â; Emma.Hughes19@wales.nhs.uk