Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Perfformiad a Chomisiynu

Bydd y Cyfarwyddwr Perfformiad a Chomisiynu yn arwain y gwaith o ddatblygu a rheoli fframweithiau perfformiad a chomisiynu strategol y Bwrdd Iechyd. Bydd deilydd y swydd, yn cynrychioli’r Bwrdd Iechyd, ac yn cymryd rhan yn y Rhwydwaith Trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, gan gynnal datganiad Gwerthoedd ac Egwyddorion Llywodraeth Cymru a chynghori’r Pwyllgor Gwaith ar yr ymateb a argymhellir i faterion trawsffiniol perthnasol.

Mae gan y rôl gyfrifoldeb am strategaeth a datblygiad Comisiynu System gyfan, gan gynnwys bod yn ddeilydd cyllideb ar gyfer Cytundebau Tymor Hir Comisiynu Gofal Eilaidd a Chytundebau Lefel Gwasanaeth, Comisiynu Gwasanaethau Arbenigol, a chomisiynu Gwasanaethau Cleifion.

Mae meithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol yn fewnol ac ar draws sefydliadau amlsector yn allweddol i lwyddiant yn y rôl hon. Felly mae Dyfed a minnau yn chwilio am arweinydd credadwy, gyda phrofiad amlwg yn y maes, a sgiliau cyfathrebu datblygedig gyda’r ymwybyddiaeth wleidyddol i lunio a datblygu'r fframwaith perfformiad a chomisiynu ar gyfer PBC.

.   

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person