Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu

Ein Gweithlu yw ein caffaeliad pennaf. Mae recriwtio, datblygu a chadw ein pobl yn allweddol i alluogi’r Bwrdd Iechyd i symud ymlaen a sicrhau llwyddiant parhaus.

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol llawn cymhelliant a thosturiol ar gyfer y rôl flaenllaw hon sydd yn arwain ein Timau Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.

Bydd Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol ein gweithlu a sbarduno newid diwylliannol cadarnhaol ar draws y sefydliad, ac yn y pen draw yn gwella gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Bydd deilydd y swydd, yn ogystal â bod yn aelod allweddol o dîm y Bwrdd Gweithredol sydd yn llywio diwylliant a chyfeiriad ein gweithlu, hefyd yn gweithredu fel llysgennad i’r Bwrdd Iechyd yn genedlaethol gan gyfrannu at strategaeth Gweithlu a Datblygu Sefydliadol GIG Cymru ac yn arwain ar ffrydiau gwaith cenedlaethol penodol.

Gan mai hwn yw’r Bwrdd Iechyd mwyaf yng Nghymru, nid yw’n syndod bod swyddogaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol hefyd yn cynnwys timau lluosog ar draws nifer o safleoedd. Mae strwythurau sefydliadol ar gael yma i ddangos maint a chymhlethdod y timau

Bydd y swydd hon yn cael ei hysbysebu yn fuan. Bydd y ddolen i'r hysbyseb i'w gweld yma.