Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus

Ymunwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i Lunio Dyfodol Iachach!

 

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus yn sefydliad iechyd mwyaf Cymru, mae’r rôl hon yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd cyhoeddus ac iechyd y boblogaeth yng Ngogledd Cymru, ardal sy’n cynnwys un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd eich gweledigaeth strategol yn ysgogi mentrau i fynd i'r afael â heriau iechyd cyhoeddus, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth.

 

Bydd y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn rhan annatod o wasanaethau iechyd cyhoeddus yng Nghymru a bydd yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad arbenigedd iechyd cyhoeddus ac unrhyw ddatblygiadau ehangach yn y maes. Felly bydd deilydd y swydd yn cael ei annog a’i gefnogi i arwain Cymru gyfan mewn meysydd priodol o ddiddordeb personol a phwysigrwydd cenedlaethol, gan hwyluso rhwydweithiau ledled y DU a thu hwnt. Mae’r rôl yn gyfrifol am eiriolaeth iechyd cyhoeddus, arweinyddiaeth a gweithredu, gan weithio fel rhan o system iechyd cyhoeddus unedig gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella iechyd a lles ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

Yn ogystal â chymwyster lefel Meistr mewn pwnc perthnasol, a chofrestriad proffesiynol priodol, bydd deilydd y swydd yn dangos ymrwymiad cryf ac angerddol dros wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae profiad o uwch arweinyddiaeth weithredol a strategol wrth weithio ar draws sefydliadau aml-sector ac o fewn amgylcheddau cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth hefyd yn hanfodol.

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person am ragor o fanylion.