Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i fod yn Fwrdd Iechyd rhagorol, a arweinir gan gleifion yng Ngogledd Cymru lle mae staff ymroddedig yn darparu gofal trugarog o ansawdd uchel i'n cleifion. Rydym yn parhau i fynd drwy broses drawsnewid sylweddol ac mae ein staff a'n cleifion wrth wraidd y gwaith o gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon.
Mae'r prif gyfrifoldebau yn cynnwys y canlynol;
- Gweithredu fel prif ffynhonnell cyngor meddygol y Bwrdd a gweithredu fel arweinydd proffesiynol ar gyfer pob meddyg, deintydd a rhwydwaith clinigol
- Arwain yr agenda llywodraethu clinigol ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth a'r Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd.
- Gweithio'n agos gyda darparwyr gofal sylfaenol ac awdurdodau lleol i ddatblygu llwybrau gofal integredig sy'n canolbwyntio ar y claf
- Ymgymryd â rôl Swyddog Cyfrifol yn unol â gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- Ymgymryd â rôl Gwarcheidwad Caldicott
- Cefnogi datblygiad addysg israddedig ac ôl-raddedig a'r trefniadau llywodraethu mewn perthynas â hynny
- Cefnogi rhagoriaeth ym maes ymchwil a datblygu, a hyrwyddo arferion gorau ym maes gofal
- Sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cliciwch yma