Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Bryn Beryl

Cyfeiriad: Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 6TT
Rhif Ffôn: 03000 850014

Gwasanaethau Ysbyty

  • Gofal cleifion mewnol dan oruchwyliaeth meddygon teulu, meddygon arbenigol a nyrsys
  • Cyfleusterau pelydr-X
  • Clinigau cleifion allanol
  • Gwasanaeth meddyg teulu y tu hwnt i oriau
  • Gwasanaethau cymdeithasol
  • Gwasanaeth pobl hŷn sydd â phroblemau cof
  • Therapi Iaith a Lleferydd
  • Gofal canolradd
  • Monitro pwysedd gwaed / ECG 24 awr
  • Teledermatoleg

Uned Mân Anafiadau (MIU)

Mae gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau ar gael yma.

Ymweliadau ag Ysbytai

Cyfyngu ar ymweliadau yn Ysbyty Bryn Beryl oherwydd cynnydd mewn heintiau

Mae cyfyngiadau ymweld ar waith ar hyn o bryd yn Ysbyty Bryn Beryl oherwydd cynnydd mewn heintiau ar y ward.

Rhaid gwneud ceisiadau i eithrio hyn, megis ymweld â pherthynas sydd ar ddiwedd oes, yn uniongyrchol â'r ward a bydd angen cwblhau asesiad risg unigol cyn ac ar ôl cyrraedd yr ymweliad y cytunwyd arno.
“Rydym yn adolygu’r sefyllfa’n rheolaidd a bydd trefniadau ymweld arferol yn ailddechrau cyn gynted â phosib.”

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Mewn car: Dilynwch yr A487 o Gaernarfon at gylchfan Llanllyfni, cymerwch yr 2il allanfa am yr A499 at Bwllheli. Mae Ysbyty Bryn Beryl tua 2.5 milltir y tu allan i Bwllheli.

Ar fws: Mae gwasanaethau rheolaidd bob dydd. Am fwy o wybodaeth ewch i: Traveline Cymru