Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Gofal ac Ymwybyddiaeth o Ddementia

Ym mis Chwefror 2019, cafodd fy mam ei derbyn i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans yn dilyn cael codwm gartref.  Cafodd ei derbyn i'r Adran Achosion Brys i gael profion a oedd yn cadarnhau bod ganddi Dorasgwrn i Wddf Asgwrn y Foddrwyd ac wedyn cafodd ei throsglwyddo i Uned Arsylwi'r Adran Achosion Brys.

Mae gan fy mam Ddementia a chafodd ei rhoi mewn gwely yn agos at Orsaf y Nyrsys.  Roedd yn gallu clywed sgyrsiau a oedd yn ei gwneud yn paranoid ac yn bryderus oherwydd ei dementia.  Cefais sicrwydd gan y staff nyrsio ei bod wedi cael ei rhoi yno 'i gadw llygaid barcud arni' gan fod risg uchel iddi ddianc oherwydd ei dementia.  Roeddent eisiau gwneud yn siŵr ei bod yn ddiogel ac roeddwn yn ddiolchgar bod y staff nyrsio yn gweithredu er lles pennaf fy mam.

Mae'r Pili-pala Dementia yn ffordd amlwg o ddynodi’r rheiny sydd â dementia a rhoddwyd sticer ar yr hysbysfwrdd uwch ben ei gwely.  Roeddwn yn teimlo y byddai sticer ar ei band arddwrn yn fwy priodol, ond cefais wybod bod rhai cleifion yn cael argraffu rhybuddion meddygol ar eu bandiau arddwrn a gall hyn o bosibl achosi iddynt fethu rhybuddion meddygol fel alergeddau.

Wedyn cafodd fy mam ei throsglwyddo i Ward Menlli yn Ysbyty Cymuned Rhuthun.  Tra'r oedd yno, sylwais nad oedd unrhyw ofal a chefnogaeth a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddementia i gleifion, teuluoedd a staff.  Ychydig iawn o weithgareddau oedd ar gael i gleifion â dementia a gellir gwella'r amgylchedd. 

Diolch i'r Tîm Cyngor a Chyswllt i Gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd, roeddwn yn gallu rhannu ein stori a chodi ymwybyddiaeth, gan arwain at welliannau i'r gwasanaeth mewn gofal llym a chymuned.    

Penodwyd swydd Gweithiwr Gofal Dementia ym mis Awst 2019, sy'n rhannu ei amser rhwng Ysbyty Cymuned Rhuthun a Dinbych i gefnogi cleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy'n rhan o ofal dementia.  Mae mwy o weithgareddau ar gael i gleifion ac mae Therapyddion Galwedigaethol yn awr yn cynnal gweithgareddau bob dydd gyda chleifion dementia yn yr Ystafell Ddydd i hyrwyddo annibyniaeth (Dydd Gwener Ymarferol).  Mae'r Ffisiotherapydd yn gwneud therapi corfforol gyda chleifion o bob gallu.  Roeddent yn mynd i brynu lloriau, drysau a chyllyll a ffyrc newydd sy'n deall dementia.

"Rwy'n fodlon gyda'r ymateb yr wyf wedi'i gael ac yn teimlo bod y gweithiwr Gofal Dementia a'r gweithgareddau bob dydd yn gam bositif ymlaen".

Mis Awst 2019